Clermont Auvergne 34–31 Gweilch

Dychwelodd y Gweilch o’r Stade Marcel-Michelin gyda dau bwynt brynhawn Sul er iddynt golli eu gêm yn erbyn Clermont Auvergne yng ngrŵp 2 Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Enillodd y tîm cartref y gêm gan sgorio pedwar cais yn y broses, ond sicrhaodd dau gais hwyr ddau bwynt bonws i’r Gweilch hefyd, y naill am sgorio pedwar cais a’r llall am fod o fewn saith pwynt i’w gwrthwynebwyr.

Hanner Cyntaf

Wedi dechrau da gan y Gweilch fe anfonwyd blaenasgellwr Clermont, Alexandre Lapandry, i’r gell gosb am daclo Dimitri Arhip oddi ar y bêl.

Tri pwynt yr un oedd hi tra yr oedd y Ffrancwyr i lawr i bedwar dyn ar ddeg diolch i gôl adlam Dan Biggar a chic gosb Camille Lopez.

Gyda Lapandry yn ôl ar y cae dechreuodd Clermont reoli gan sgorio dau gais cyn yr egwyl. Daeth y cyntaf i’r asgellwr, David Strettle, gyda rhediad gwych o’r llinell hanner yn dilyn gwrthymosodiad y cefnwr, Nick Abendanon.

Roedd yr ail yn gais taclus hefyd, Lopez yn amseru’i bas yn berffaith ac Aurélien Rougerie yn croesi. Trosodd Lopez y ddau gais ac ychwanegu cic gosb hefyd i roi mantais iach i’w dîm, 20-3 ar yr egwyl.

Ail Hanner

Tarodd y Gweilch yn ôl yn gryf ar ddechrau’r ail hanner gyda dau gais yn y deg munud cyntaf.

Justin Tipuric sgoriodd y cyntaf wedi sgarmes symudol, a’r blaenasgellwr greodd yr ail gyda chic i Eli Walker. Trosodd Biggar y ddau, a thri phwynt oedd ynddi.

Ymestynnodd Strettle y bwlch hwnnw chwarter awr o’r diwedd gyda chais unigol da arall ac roedd y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn ddiogel i’r Ffrancwyr pan gasglodd Wesley Fofana gic letraws Brock James ddeg munud yn ddiweddarach.

Rhoddodd trosiad Morgan Parra dair sgôr rhwng y ddau dîm gyda phum munud i fynd ond doedd y Gweilch ddim am roi’r ffidl yn y to.

Ac er nad oedd ceisiau hwyr Sam Parry a Tom Habberfield yn ddigon i ddwyn y fuddugoliaeth, mae dau bwynt bonws oddi cartref yn Ffrainc yn ganlyniad go lew.

Mae’r pwyntiau hynny’n ddigon i gadw’r Gweilch ar frig grŵp 2 gan na wnaeth Clermont a Bordeaux chwarae’r wythnos ddiwethaf.

.

Clermont Auvergne

Ceisiau: David Strettle 25’, 66’, Aurélien Rougerie  35’, Wesley Fofana 75’

Trosiadau: Camille Lopez 27’, 36’, 67’, Morgan Parra 76’

Ciciau Cosb: Camille Lopez 17’, 40’

Cerdyn Melyn: Alexandre Lapandry 12’

.

Gweilch

Ceisiau: Justin Tipuric 48’, Eli Walker 50’, Sam Parry 79’, Tom Habberfield 80’

Trosiadau: Dan Biggar 49’, 52’, 79’, 80’

Gôl Adlam: Dan Biggar 15’

Cerdyn Melyn: Sam Davies 72’