Gleision 20–32 Harlequins

Colli fu hanes y Gleision wrth i’r Harlequins ymweld â Pharc yr Arfau yng ngrŵp 3 Cwpan Her Ewrop nos Iau.

Sgoriodd y Saeson bedwar cais ail hanner wrth sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn y Cymry.

Cafwyd munud o gymeradwyaeth er cof am yr eicon rygbi a chyn chwaraewr y Gleision, Jonah Lomu, cyn y gic gyntaf.

Tri phwynt yn unig oedd ynddi ar yr egwyl yn dilyn dim ond tair cic gosb lwyddiannus yn y deugain munud agoriadol, dwy i Rhys Patchell a’r Gleision, ac un i Ben Botica a’r Harlequins.

Poethodd pethau wedi’r egwyl gyda Tim Visser yn croesi am y cais cyntaf wedi deg munud yn dilyn rhyng-gipiad ar y llinell hanner.

Torrodd Ollie Lindsay-Hague trwy sawl tacl wrth groesi am yr ail gais ddau funud yn ddiweddarach cyn i Charlie Walker dirio’r trydydd toc wedi’r awr.

Gorffennodd y Gleision y gêm gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn coch i Matthew Rees am sathriad, ond sgoriodd y tîm cartref ddau gais hwyr serch hynny, un yn gais cosb a’r llall gan Sam Hobbs.

Ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi a’r Harlequins a gafodd y gair olaf wrth i gais hwyr Danny Care sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws i’r Harlequins.

.

Gleision

Ceisiau: Cais Cosb 70’, Sam Hobbs 79’

Trosiadau: Jarrod Evans 70’, 79’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 8’1, 13’

Cerdyn Coch: Matthew Rees 73’

.

Harlequins

Ceisiau: Tim Visser 50’, Ollie Lindsay-Hague 52’, Charlie Walker 65’, Danny Care 80’

Trosiadau: Ben Botica 50’, 52’, Tim Swiel 80’

Ciciau Cosb: Ben Botica 34’, 47’