Mae dau chwaraewr rygbi o Gymru wedi cael eu gwahardd  rhag cystadlu am gyfanswm o chwe blynedd ar ôl iddyn nhw gymryd cyffuriau anghyfreithlon.

Cafodd Owen Morgan, oedd yn chwarae i Ferthyr, waharddiad o bedair blynedd o unrhyw chwaraeon ar ôl i’r cyffuriau, gan gynnwys cocên, gael eu canfod yn ei system.

Daethpwyd o hyd i gyffur tamoxifen yng nghorff chwaraewr o Lyn-nedd, Greg Roberts, ac mae yntau wedi cael gwaharddiad o ddwy flynedd gan y corff gwrth-gyffuriau yn y DU.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymateb drwy  erfyn ar chwaraewyr i beidio â chymryd unrhyw sylweddau heb sicrhau nad ydyn nhw wedi cael eu gwahardd, gan rybuddio bod cosbau llym yn wynebu’r rheiny sydd yn methu.

Cymryd cocên

Cafwyd hyd i gyffuriau drostanolone a benzoylcgonine yng nghorff Owen Morgan yn dilyn gêm rhwng Merthyr a Phen-y-bont yn Adran Un Gorllewin Cynghrair SWALEC ar 7 Mawrth eleni.

Cyfaddefodd Owen Morgan ei fod wedi bod yn defnyddio sylwedd o’r enw Mastoral er mwyn gwella anaf i linyn y gâr er ei fod yn gwybod ei fod yn fath o steroid, ac mai dyna oedd wedi achosi iddo fethu’r prawf.

Dywedodd hefyd ei fod wedi cymryd cocên ar noson allan wythnos cyn y prawf, gan esbonio presenoldeb y benzoylcgonine, ond nad oedd wedi disgwyl bod yn y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Pen-y-bont ac na fyddai wedi cymryd y cyffuriau petai’n gwybod ei fod am chwarae.

Cyfaddefodd Greg Roberts ei fod wedi cymryd sylwedd o’r enw Anti Esto er mwyn trin symptomau gynaecomastia, ond nad oedd wedi gwneud digon o ymchwil i weld a oedd y cyffur wedi’i wahardd.

Mwy o Gymry

Mae’n golygu bod deg o’r 16 chwaraewr rygbi sydd wedi cael eu gwahardd o’r gamp ym Mhrydain am gymryd cyffuriau ar hyn o bryd yn dod o Gymru, ac yn ôl prif weithredwr URC Martyn Phillips mae’n rhaid i eraill fod yn fwy gofalus.

“Mae’r gwaharddiadau yma’n rhybudd cryf i bawb yn y gêm bod peidio â chydymffurfio â rheolau gwrthgyffuriau yn gallu golygu goblygiadau enbyd,” meddai.

“Does dim lle i gyffuriau o fewn chwaraeon, a dyw e’n sicr ddim yn unol â gwerthoedd rygbi’r undeb.

“Boed e’n fwriadol neu’n anfwriadol, mae gan chwaraewyr gyfrifoldeb i’w hunain, i’w gilydd, i’w clybiau ac i’r gamp i weithredu o fewn rheolau ac ysbryd y gêm.”