Y prop Taufa’ao Filise fydd y cyntaf i chwarae 200 o gemau dros y Gleision yfory wrth i’r tîm daclo’r Glasgow Warriors yn y Guinness PRO12 ym Mharc yr Arfau.

Bydd y chwaraewr o Tonga yn chwarae ochr yn ochr â rhai o chwaraewyr rhyngwladol gorau Cymru wrth i’r prif hyfforddwr, Danny Wilson wneud cyfres o newidiadau i’r tîm wnaeth golli i Zebre y penwythnos diwethaf.

Mae Gethin Jones yn ôl fel capten y tîm, tra bydd Kristian Dacey yn ôl yn safle’r bachwr.

Capten tîm rhyngwladol Cymru, Sam Warburton fydd yn chwarae yn y rhes ôl yn ei gêm gyntaf o’r tymor gyda’r Gleision, gyda Josh Turnbull yn chwarae yn safle’r wythwr ac Ellis Jenkins yn flaenasgellwr.

Mae Gavin Evans yn ôl yn ffit i chwarae yn y canol tra bydd y chwaraewr rhyngwladol o Samoa, Rey Lee-Lo yn chwarae ei gêm gyntaf i’r rhanbarth.

Ac mae Alex Cuthbert yn dychwelyd i safle’r asgellwr.

“Ffantastig” cael bod adre’

“Mae’n ffantastig i fod adref ar ôl dau fis i ffwrdd o Barc yr Arfau BT Sport ac rydym yn edrych ‘mlaen at y gêm gyda’r Glasgow Warriors,” meddai’r prif hyfforddwr Danny Wilson.

“Rydym yn falch iawn o groesawu ein chwaraewyr rhyngwladol i Gymru a bydd Rey Lee-Lo yn chwarae ei gêm gyntaf hefyd.

“Tra bydd Rey yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf, mae gennym ni Taufa’ao Filise sy’n ymddangos am y 200fed tro sy’n gamp aruthrol.

“Mae chwarae cymaint o gemau â hynny yn gyrhaeddiad gwych ac yn dyst i’w ymroddiad a’i wydnwch.”