Warren Gatland
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi dweud y bydd yn gadael ei rôl gyda’r tîm rygbi cenedlaethol a dychwelyd i Seland Newydd ar ôl 2019.

Fe arweiniodd Gatland dîm Cymru i rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd eleni ac mae ganddo gytundeb sydd yn ymestyn hyd at y twrnament nesaf yn Siapan ymhen pedair blynedd.

Ond mae’n debyg fod y gŵr o Seland Newydd wedi penderfynu na fydd yn aros yng Nghymru yn hirach na hynny, gan ddweud ei fod am ddychwelyd i’w wlad enedigol.

“Rydw i yma nes 2019 a’r bwriad wedyn yn sicr yw dod gartref am gyfnod,” meddai Gatland wrth Radio Sport o Seland Newydd.

Llwyddiant

Cafodd y Kiwi ei benodi ym mis Rhagfyr 2007 ar ôl ymgyrch siomedig Gareth Jenkins yng Nghwpan y Byd y flwyddyn honno.

Fe enillodd y Gamp Lawn o fewn misoedd i gael ei benodi, gan ailadrodd y gamp honno yn 2012 a chipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Chymru yn 2013 hefyd.

Yn 2011 fe aeth a’r tîm o fewn trwch blewyn i gyrraedd ffeinal Cwpan y Byd, cyn iddyn nhw golli i Ffrainc o 9-8 yn y rownd gynderfynol.

‘Dod gartref’

Ond mae’n ymddangos ei fod wedi penderfynu y byddai 12 mlynedd ar y llwyfan rhyngwladol gyda Chymru yn ddigon iddo.

“Petawn i’n gweithio gyda thîm rhanbarthol neu Super Rugby byddai hynny’n grêt, ond os ddim, falle y bydd rhaid i mi fynd i’r traeth am chwe mis neu 12 mis, rhoi fy nhraed lan a chymryd saib,” meddai’r hyfforddwr.

“Dyna’r bwriad. Rydw i wedi bod i ffwrdd ddigon hir. Rydw i’n 52 felly gobeithio mod gen i ddigon o flynyddoedd eto’n hyfforddi.

“Ar ôl 2019 y bwriad yn sicr ydi dod gartref i Seland Newydd.”