Caeredin 20–9 Gweilch

Colli oedd hanes y Gweilch yn y Guinness Pro12 nos Wener mewn gêm hynod siomedig yn erbyn Caeredin ym Murrayfield.

Dau bwynt oedd ynddi yn dilyn deugain munud agoriadol diflas ddifrifol. Ciciodd Sam Davies y Cymry chwe phwynt ar y blaen cyn i brop y Gweilch, Nicky Smith, gael ei anfon i’r gell gosb.

Roedd pac yr ymwelwyr o dan gryn bwysau wedi hynny ac yn dilyn cyfnod hir o bwyso, fe groesodd y maswr cartref, Phil Burleigh, am y cais agoriadol.

Rhoddodd trosiad Greig Tonks yr Albanwyr bwynt ar y blaen cyn i Davies roi’r fantais yn ôl i’r Gweilch gyda chic olaf yr hanner.

Doedd yr ail hanner fawr gwell na’r cyntaf ond fe wnaeth Caeredin, yn raddol, ddechrau rheoli pethau.

Rhoddodd Tonks ei dîm yn ôl ar y blaen gyda chic gosb wedi deg munud cyn ymestyn y fantais gyda thri phwynt arall tra’r oedd Olly Cracknell yn y gell gosb i’r Gweilch.

Roedd y Gweilch o fewn sgôr gyda deg munud i fynd ond doedd dim dwywaith mai Caeredin oedd yn haeddu ennill. Gwnaethant hynny yn gymharol gyfforddus yn y diwedd diolch i gais hwyr y blaenasgellwr, John Andress, a throsiad Jack Cuthbert.

20-9 y sgôr terfynol felly a’r Gweilch heb ennill mewn tair gêm.

.

Caeredin

Ceisiau: Phil Burleigh 38’, John Andress 74’

Trosiadau: Greig Tonks 39’, Jack Cuthbert 75’

Ciciau Cosb: Greig Tonks 49’, 63’

.

Gweilch

Ciciau Cosb: Sam Davies 5’, 19’, 40’

Cardiau Melyn: Nicky Smith 30’, Olly Cracknell 62’