Fe allai teithwyr yng Nghaerdydd wynebu hyd at dair awr o oedi wrth aros am drenau heddiw, wrth i gefnogwyr rygbi heidio i’r brifddinas am gêm arall yng Nghwpan y Byd.

Fe fydd cic gyntaf yr ornest ddiweddaraf rhwng Awstralia a Fiji yn digwydd am 4.45yp, gyda’r disgwyl y bydd miloedd yn teithio i Gaerdydd, ac yn gadael heno, ar y trên.

Roedd y ddinas eisoes wedi gweld oedi mawr dros y penwythnos, gyda First Great Western yn ymddiheuro dydd Sadwrn am “orlenwi difrifol” wrth i gefnogwyr Iwerddon deithio i wylio’u tîm yn herio Canada yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae cwmni trenau Arriva nawr wedi cyfaddef eu bod yn disgwyl rhagor o dagfeydd heno, gyda thua 35,000 o gefnogwyr yn gadael y stadiwm erbyn tua 7yh er mwyn ceisio dal trenau allan o Gaerdydd.

“Ar gyfartaledd fe allwn ni symud 10,000 o bobl yr awr drwy’n system giwio ond yn anffodus ar gyfer rhai o’n ciwiau mwyaf prysur, fe allai hynny olygu aros am hyd at dair awr,” meddai cyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid Arriva, Lynne Milligan.

Crabb yn gynddeiriog

Mae’r cwmni eisoes wedi rhybuddio teithwyr sydd yn mynd i Gaerdydd o Ben-y-bont, Pencoed, Llanharan, Pont-y-clun a Chwmbrân, Pont-y-pŵl, a’r Fenni i ddal y trên cynharaf posib.

Ond mae’r trafferthion trafnidiaeth wedi cythruddo Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb, a awgrymodd y gallai’r oedi wneud niwed i allu prifddinas Cymru i ddenu cystadlaethau chwaraeon yn y dyfodol.

“Mae lot yn dibynnu ar hyn o ran enw da Cymru ac enw da Caerdydd,” meddai Stephen Crabb, wrth alw ar Arriva Trains Wales a Great Western Railway, fel maen nhw bellach yn cael eu galw, i wneud gwelliannau.

“Mae gan Gaerdydd enw da eisoes fel y ddinas orau yn Ewrop i wylio rygbi a dydyn ni ddim eisiau i broblemau trafnidiaeth danseilio’r enw da hwnnw rydyn ni wedi’i ennill fel dinas wych i gynnal digwyddiadau rhyngwladol.

“Mae’n uchelgais gen i weld Caerdydd a Chymru yn cynnal mwy o’r digwyddiadau rhyngwladol mawr yma, boed e’n ffeinal Cynghrair y Pencampwyr UEFA neu geisiadau posib [ar gyfer] Gemau’r Gymanwlad.

“Mae cael system drafnidiaeth sydd yn effeithlon ac yn gweithio’n effeithiol ar adegau allweddol pan mae’r galw ar ei fwyaf yn hanfodol yn hynny o beth.”