Mae Ffiji, un o wrthwynebwyr Cymru yn eu grŵp yng Nghwpan Rygbi’r Byd, wedi enwi eu carfan ar gyfer y gystadleuaeth.

Akapusi Qera yw capten y garfan o 31 chwaraewr, sydd yn cynnwys seren y Crusaders, Nemani Nadolo sydd wedi gwella o anaf, yn ogystal ag asgellwr y Gweilch, Josh Matavesi.

Mae’r tîm wedi ennill Cwpan Cenedlaethol Ynysoedd y Môr Tawel yn ddiweddar, ond gyda Chymru, Lloegr ac Awstralia yn ogystal ag Uruguay yn eu grŵp Cwpan y Byd, mae gan dîm John McKee dasg anodd o’u blaenau.

“Mae Grŵp A yn grŵp heriol iawn ac mae gen i bob ffydd y bydd y tîm yn taclo’r her a pherfformio ar eu gorau ym mhob gêm yng Nghwpan y Byd,” meddai hyfforddwr Ffiji.

Bydd Cymru yn herio Ffiji yn eu trydedd gêm o’r grŵp ar Hydref 1.

Carfan Ffiji ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd

Blaenwyr – Lee Roy Atalifo, Isei Colati, Campese Ma’afu, Peni Ravai, Manasa Saulo, Sunia Koto, Tuapati Talemaitoga, Viliame Veikoso, Tevita Cavubati, Leone Nakarawa, Api Ratuniyarawa, Nemia Soqeta, Masi Matadigo, Akapusi Qera (capten), Malakai Ravulo, Netani Talei, Dom Waqaniburotu, Peceli Yato.

Olwyr – Nemia Kenatale, Nikola Matawalu,Henry Seniloli, Lepani Botia, Gabby Lovobalavu, Josh Matavesi, Ben Volavola, Vereniki Goneva, Kini Murimurivalu, Nemani Nadolo, Waisea Nayacalevu, Metuisela Talebula, Asaeli Tikoirotuma.