Warren Gatland
Mae awdurdodau rygbi’r byd wedi dweud y byddan nhw’n ailystyried y ffordd maen nhw’n dewis grwpiau ar gyfer Cwpan y Byd yn y dyfodol, ar ôl beirniadaeth o’r broses cyn y twrnament eleni.

Mae Cymru, Lloegr, Awstralia a Fiji i gyd wedi cael eu dewis yn yr un grŵp ar gyfer Cwpan y Byd eleni, sydd yn dechrau ym mis Medi, gan olygu y bydd o leiaf un o gewri’r gêm yn mynd adref cyn rownd yr wyth olaf.

Roedd hyfforddwr Cymru Warren Gatland ymysg y rheiny sydd wedi beirniadu’r broses o ddewis y grwpiau gafodd ei gwneud nôl yn 2012, tair blynedd cyn y gystadleuaeth.

Mae prif weithredwr World Rugby, y corff sydd yn rheoli’r gêm, nawr wedi cyfaddef eu bod yn “trafod” dewis y grwpiau yn agosach at y gystadleuaeth tro nesaf.

Her a hanner

Pan gafodd y grwpiau Cwpan y Byd 2015 eu dewis nôl yn 2012 roedd Cymru newydd orffen cyfres yr hydref heb yr un fuddugoliaeth o’u pedair gêm.

Roedd hynny’n ddigon i’w gweld nhw’n llithro i’r nawfed safle yn rhestr detholion y byd am ychydig amser, gan olygu eu bod nhw ymysg timau’r trydydd pot pan gafodd y grwpiau eu dewis.

Dim ond dau dîm fydd yn mynd drwyddo o bob grŵp yng Nghwpan y Byd gan olygu felly y bydd un ai Cymru, Lloegr neu Awstralia yn siŵr o adael y twrnament yn gynt na’r disgwyl.

Ac fe awgrymodd prif weithredwr World Rugby, Brett Gosper, y byddai’n awyddus i osgoi sefyllfa debyg ymhen pedair blynedd.

“Roedd e’n teimlo fel sbel yn ôl,” meddai Brett Gosper wrth drafod dewis grwpiau 2015.

“Rydych chi eisiau iddi fod yn adlewyrchiad teg o’u safleoedd pan mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal. Mae’n rhaid cael y cydbwysedd rhwng pa mor agos yw hi i’r twrnament, a’r holl gynllunio sydd ei angen.

“Fe wnawn ni edrych ar bethau tro nesaf i weld os yw’n bosib dewis y grwpiau yn agosach at y twrnament.”