Mae blaenasgellwr y Scarlets, James Davies, wedi rhybuddio nad yw’r tîm yn saff o’u lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop eto, wrth i gêm olaf y tymor yn y Pro12 agosáu.
Ar hyn o bryd mae’r Scarlets yn chweched yn y tabl, ac fe fyddai gêm gyfartal oddi cartref yn Treviso yn ddigon i sicrhau eu lle ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesaf.
Ond mae Connacht, sydd pedwar pwynt y tu ôl iddyn nhw, a Chaeredin sydd pum pwynt ar ei hôl hi, yn gobeithio dal y Scarlets yn y safle hwnnw.
“Dy’n ni ddim yn saff,” meddai James Davies, seren y gêm y penwythnos diwethaf wrth i’r Scarlets drechu’r Gleision.
“Rydyn ni’n gwybod bod bwlch o bedwar pwynt ddim yn ddigon. Mae’n rhaid i’r bechgyn fod ar eu gorau’r wythnos yma yn enwedig mas fynna yn Treviso.”
‘Eisiau herio’r goreuon’
Bydd holl gemau penwythnos olaf y Pro12 yn dechrau am 3.00 o’r gloch ddydd Sadwrn, gyda Connacht yn croesawu’r Gweilch a Chaeredin yn herio Leinster.
Ond mae’r Scarlets yn gwybod eu bod nhw un canlyniad da i ffwrdd o sicrhau eu bod yn gorffen yn y chwech uchaf, ac yn ôl James Davies dyw ffocws y tîm heb lithro o’r nod hwnnw.
“Rydyn ni wedi siarad am y peth ers y Nadolig. Chweched oedd y nod,” meddai.
“Ers ein bloc o gemau yn erbyn y timau Gwyddelig rydyn ni wedi bod yn pwysleisio hyn bob wythnos. Mae’r bechgyn yn gwybod pa mor bwysig yw hyn i’r clwb ar ac oddi ar y cae.
“Rydyn ni i gyd eisiau bod yn Ewrop. Rydyn ni i gyd eisiau chwarae yn erbyn y timau mawr.”