Lee Williams
Mae un o sêr rygbi saith bob ochr Cymru yn hyderus y bydd y tîm cenedlaethol yn cyrraedd rowndiau wyth ola’ Gemau’r Gymanwlad.

Fe fydden nhw wedyn yn chwarae yn erbyn naill ai Awstralia neu Loegr … ac mae’r garfan derfynol yn cael ei dewis heddiw.

Fe ddywedodd Lee Williams wrth golwg360 ei fod yn gobeithio bod yn y grŵp er gwaetha’ gorfod dod tros anaf yn ystod yr wythnosau diwetha’.

Llysgennad Gêmau Cymru

Y penwythnos yma, ef yw un o lysgenhadon Gêmau Cymru, sy’n cael eu trefnu ar y cyd rhwng yr Urdd a rhai o’r cyrff rheoli chwaraeon yng Nghymru.

Ac fe broffwydodd y byddai rhai o’r bron 1,000 o athletwyr ifanc sy’n cymryd rhan yn llwyddo i gyrraedd y brig fel y gwnaeth ef ei hun.

Roedd Lee Williams yn canmol yr Urdd am roi cyfle i bobol ifanc gymryd rhan mewn bob math o chwaraeon gwahanol ac am drefnu pencampwriaeth ar raddfa fawr – y bedwaredd flwyddyn iddi gael ei chynnal.

“Mae eisiau i bobol ifanc chwarae nifer o chwaraeon gwahanol, er mwyn gweld pa rai yr’ ych chi’n eu hoffi fwya’,” meddai Lee Williams wrth golwg360.

“Ac mae’n neis hefyd i weld pobol ifanc yn cael dysgu chwaraeon trwy’r Gymraeg.”

Gêmau’r Gymanwlad – gobeithion Cymru

Mae’r garfan saith bob ochr gychwynnol ar gyfer Gêmau’r Gymanwlad wedi bod yn hyfforddi ers mis ac, yn ôl Lee Williams, roedd y gwaith ffitrwydd yn “ofnadwy o galed”.

Roedd Cymru wedi cael eu rhoi mewn grŵp gweddol, meddai, gyn ychwanegu, “fe ddylen ni allu dod mas o’r grŵp yn eitha rhwydd a cheisio curo Lloegr neu Awstralia yn y chwarteri”.

  • Ymhlith llysgenhadon eraill Gêmau Cymru yw Ryan Oyler, enillydd medal aur Tenis Bwrdd Prydeinig dan 18 a Sioned Hiscocks, aelod o dîm pêl-rwyd Cymru dan 21.