Shaun Edwards a Warren Gatland (llun o wefan URC)
Mae hyfforddwr amddiffynnol Cymru, Shaun Edwards, wedi dweud bod Cymru’n wynebu tasg enfawr os ydyn nhw am atal Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Dim ond Lloegr sydd wedi sgorio mwy o geisiau na’r Gwyddelod yn y Chwe Gwlad eleni.

Mae Shaun Edwards yn credu y bydd tîm Declan Kidney yn parhau i chwarae gêm agored yng Nghaerdydd.

Dim ond unwaith mae’r Gwyddelod wedi colli ym mhrifddinas Cymru er 1983.

“Roedd Iwerddon ar dân yn yr hanner cyntaf yn erbyn yr Alban, ac fe sgoriwyd tri chais yn erbyn Ffrainc, sy’n ymdrech anhygoel,” meddai Shaun Edwards.

“Er iddyn nhw golli gafael ar y bêl yn erbyn yr Eidal, roedden nhw wedi creu cyfleoedd.  Maen nhw’n chwarae rygbi agored ac yn sgorio ceisiau yn aml.

“Fe fydd yn dasg enfawr i ni’n amddiffynnol. Ond r’yn ni’n teimlo ein bod ni’n gallu wynebu’r her.

“Rwy’n hapus iawn gydag ein hamddiffyn yn y ddwy gêm ddiweddaraf, ond fe fydd rhaid i ni godi i lefel arall eto yn erbyn Iwerddon.”

Anafiadau

Mae gan Gymru bryderon am rai chwaraewyr ond mae Shaun Edwards yn ffyddiog y bydd y chwaraewyr ar gael ar gyfer y penwythnos.

Mae Jonathan Davies ‘nôl yn ymarfer ar ôl colli’r gêm yn erbyn yr Eidalwyr gydag anaf i’w gefn tra bod gan Lee Byrne broblem gyda’i bigwrn.

Mae gan gapten Cymru Matthew Rees problem gyda’i linyn y gar tra bod y chwaraewr amryddawn James Hook wedi anafu ei goes.

Mae bachwr y Gweilch, Huw Bennett, wedi cael ei alw mewn i’r garfan ar ôl i Richard Hibbard ddioddef anaf i’w ysgwydd.

Mae yna hefyd amheuon ynglŷn â ffitrwydd Morgan Stoddart, Ryan Jones a Jonathan Thomas.

“Mae gennym ni ambell anaf yn y garfan, ond fe ddylen nhw fod yn iawn erbyn y penwythnos,” meddai Shaun Edwards.