Mike Phillips
Mae mewnwr Cymru, Mike Phillips, wedi dweud bod rhaid i dîm Cymru faeddu’r Gwyddelod ddydd Sadwrn er mwyn gwobrwyo’r Cymry am eu cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dyw tîm Warren Gatland heb ennill gêm yn Stadiwm y Mileniwm ers curo’r Eidal yno ym mis Mawrth y llynedd.

Mae Cymru wedi ennill dwy gêm oddi cartref yn olynol yn erbyn yr Alban a’r Eidal, ond mae Phillips wedi dweud bod angen cynnal y momentwm yn erbyn y Gwyddelod.

“Mae Stadiwm y Mileniwm yn le gwych i chwarae. Ond d’yn ni heb ennill yno ers tipyn.  Mae’n rhaid i ni ennill, er mwyn y cefnogwyr,” meddai Phillips wrth bapur y Western Mail.

“R’yn ni wedi chwarae’n dda yno mewn gemau o’r blaen, ond mae angen y fuddugoliaeth arnom ni ac ar y cefnogwyr.

“Mae cefnogwyr Cymru’n wych ac rwy’n gobeithio y bydd modd i ni sicrhau buddugoliaeth fawr iddyn nhw.”

Mae Mike Phillips yn credu bod gan Gymru gyfle i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad er iddyn nhw golli wrth wynebu Lloegr yn eu gêm agoriadol.

“Mae gennym ni gyfle da i ennill. Does neb yn gwybod beth allai ddigwydd. Mae pawb yn gallu maeddu unrhyw un arall yn y Chwe Gwlad.

“Rydyn ni wedi dechrau ennill momentwm. R’yn ni’n ail yn y tabl gyda gêm gartref i’w  chwarae – mae’n rhaid i ni fod yn bositif.”