Adam Jones - i'r cae
Y Gweilch 37 Glasgow 6

Fe gododd y Gweilch i’r ail le yng Nghynghrair Magners gyda’u trydedd buddugoliaeth bwynt bonws yn olynol.

Roedd yr hyfforddwr Sean Holley yn dweud ei fod wrth ei fodd yn gweld chwaraewyr ifanc yn datblygu a’r tîm yn cael eu seithfed buddugoliaeth o’r bron.

Ond roedd yna groeso mawr i’r hen ben, Adam Jones, a ddaeth i’r cae ar ôl 58 munud a chodi gobeithion y bydd yn ôl yn nhîm Cymru hefyd.

Roedd y Gweilch wedi mynd ar y blaen o’r dechrau gyda chais cosb yn eu hymosodiad mawr cynta’ ar ôl i’r Albanwyr chwalu un sgrym ar ôl y llall.

Gyda gôl adlam ac wedyn cais gan y maswr Dan Biggar, ar ôl symudiad da o hanner ffordd, roedd y Cymry 17-0 ar y blaen cyn gadael i Glasgow grafu’n ôl i 17-6 ar yr egwyl.

Ar ôl hynny, fe ddaeth ceisiau gan Tom Smith, Andy Beck a Jerry Collins a rhagor o bwyntiau o droed Biggar sy’n arwain tabl y sgorwyr yng Nghynghrair Magners.

Holley’n canmol

Roedd Andy Beck yn un o’r chwaraewyr a gafodd ganmoliaeth arbennig gan Holley – roedd wedi bod yn gwella a gwella’n raddol, meddai.

Roedd yr un peth yn wir am y prop pen tynn, Cai Griffiths, a ildiodd ei le i Adam Jones.

“Mae pawb yn hoffi Adam,” meddai’r hyfforddwr. “Mae cefnogwyr rygbi go iawn yn gwybod pa mor bwysig yw’r pen tynn ac mae’n wych ei weld yn dod yn ôl.

“Ond roedd y sgrym yn eitha’ cry’ cyn i Adam ddod i’r cae. Mae datblygiad Cai wedi bod yn ardderchog.”