Alun Wyn Bevan sy’n awgrymu’r llyfrau i chi fynd ar eu holau ym myd y bêl hirgron os nad oedd Siôn Corn wedi dod a nhw …

Dros y Nadolig mae’n debygol i nifer ohonoch chi dderbyn llyfrau ymysg eich anrhegion i’w mwynhau ar ôl y cinio mawreddog. Er bod y dechnoleg yn newid yn gyflym a miliynau’n buddsoddi mewn kindles ac e-lyfrau mae’r mwyafrif ohonom yn dal i werthfawrogi hud a lledrith y llyfr traddodiadol.

Tybed faint ohonoch chi gafodd y pleser o suddo i gadair esmwyth gyfforddus ac ail-fyw’r gorffennol drwy ddarllen am gampau rhai o chwaraewyr rygbi enwoca’ Cymru’r Nadolig hwn?

Eleni eto mae yna gasgliad gwych wedi bod i ddifyrru cefnogwyr y bêl hirgron gan fod tri o hoelion wyth y gêm wedi penderfynu dweud eu dweud.

Delme Thomas

Cyd-weithio a’r gohebydd a’r darlledwr Alun Gibbard wnaeth cyn gapten y Scarlets a Chymru Delme Thomas ac mae ffrwyth eu llafur, Delme (Y Lolfa), yn wledd i’r darllenwr.

Mae’n wir dweud fod pob un gair o’r gyfrol yn perthyn i Delme ac mae hi’n stori dylwyth teg – chwarae mewn prawf i’r Llewod yn erbyn Seland Newydd cyn gwisgo crys coch Cymru, atgofion melys o’r diwrnod pan drechwyd y Crysau Duon ar Barc y Strade yn ogystal â gonestrwydd yr ail-reng wrth frwydro’n ddewr yn erbyn afiechyd.

Yn naturiol mae Delme’n arwr i holl gefnogwyr y Scarlets ond hyd yn oed heddi’ mae yna barch aruthrol iddo ledled y  byd fel chwaraewr ac fel person.

Gerald a’i geisiau

Un arall o fawrion y byd rygbi yw Gerald Davies ac mae ei gyfrol The Greatest Welsh Tries Ever (Gwasg Gomer) yn sicr o werthu’n dda.

Roedd yr asgellwr chwimwth yn croesi’r llinell gais yn amlach na neb ac mae ei gasgliad cynhwysfawr o geisiau yn sicr o esgor ar ddadlau brwd yn nhafarndai a chlybiau rygbi Cymru yn ystod y misoedd nesaf.

Fe fydd yna gytuno ac anghytuno a’r aficionados yn sicr o gyfeirio at ymdrechion eraill sy erbyn hyn ond yn frith atgofion yn seler y cof.

John Davies

Pontio’r cyfnod rhwng oes yr amatur a’r proffesiynol wnaeth John Davies o Fferm Cilrhue yng nghysgod mynyddoedd y Preselau ac mae’r gyfrol ardderchog John Davies – Dala’r slac yn dynn (Y Lolfa) yn un a ddylse fod ar silff lyfrau holl gefnogwyr y gamp.

Mae bod yn broffesiynol yn golygu byw’n iach, meithrin agweddau positif, dangos parch i’r gwrthwynebwyr, trin a thrafod pobol yn feddylgar a rhoi cant y cant i’r achos a dyna wnaeth John drwy gydol ei yrfa gyda Chastell-nedd, Richmond, Llanelli, Cymru a Chrymych.

Mae’r briodas rhwng John a’i gydawdur Wyn Gruffydd yn un hynod effeithiol gan fod y ddau yn hanu o’r un ardal, yn fois rygbi o’u corun i’w sawdl ac wedi’u naddu o wead genedol y tir o’u cwmpas.