Fe fydd Warren Gatland yn enwi ei garfan ar gyfer taith y Llewod ar ddiwedd y mis, ond yn y cyfamser mae’r dyfalu’n parhau ymysg y gwybodusion. Boi rygbi Golwg360, Owain Gwynedd, sy’n enwi’r 15 mae o’n credu ddylai ddechrau’r prawf cyntaf yn erbyn Awstralia ar 22 Mehefin.

Cymru yw Pencampwyr y Chwe Gwlad –  ac mae deud huna allan yn uchel dal i roi rhyw fath o wefr i mi. Heblaw am y 45 munud gwael yn erbyn y Gwyddelod, er dwi’n meddwl y dylai Cymru fod wedi ennill y gêm efo’r cyfleoedd a gawsom nhw beth bynnag, mi fysa Cymru’n dathlu’r ail Gamp Lawn yn olynol a’r bedwaredd mewn llai ‘na degawd.

Efallai wedyn fydda ni wedi bod yn sgwrsio bod tîm y degawd yma yn fwy llwyddiannus na’r 70au.

Erbyn hyn mae dros bythefnos wedi mynd heibio ers y gêm, neu’r sioe, rygbi orau yn hanes dyn. Ac mae’r gorfoledd gwallgof lle’r oedd pob Cymro wnaeth chwarae yn erbyn Lloegr am ddechrau i’r Llewod yn erbyn Awstralia haf yma wedi tawelu.

Felly, gyda’r holl emosiynau allan o’r system, sawl Cymro fydd yn dechrau i’r Llewod? Dyma nhîm i…

15. Leigh Halfpenny (Cymru)

Sawl un wedi darogan bydd cefnwr Yr Alban, Stuart Hogg, yn hawlio’r safle ond dwi’n cael hi’n anodd iawn anwybyddu ‘Chwaraewr y Chwe Gwlad’ a chiciwr cyson o dan bwysau.

Yr adeg yma llynedd byddai Rob Kearney wedi bod yn fygythiad ond mae anafiadau wedi ei ddal yn ôl.

14. Tommy Bowe (Iwerddon)

Ar ei ddydd Bowe ydi un o asgellwyr gore Ewrop, ond mae o wedi dioddef o anafiadau’r tymor yma. Os ydi o’n profi ei ffitrwydd fo fydd y ‘wildcard’.

Bydd Alex Cuthbert yn teimlo’n anlwcus gan fod o yn gallu gorffen symudiad yn well nag unrhyw chwaraewr. Ond mae ei wendidau amddiffynnol a’r diffyg sgil i drafod y bêl mewn symudiadau chwim y cefnwyr yn anfantais.

13. Brian O’Driscoll (Iwerddon)

Gyda blaenwyr a chefnwyr mor gorfforol yn y tîm mae angen rhywun efo ychydig o greadigrwydd ymysg y cefnwyr. Doedd O’Driscoll ddim ar ei ore erbyn diwedd y gystadleuaeth ond mae o’n cynnig set o sgiliau does fawr arall yn gallu.

Jonathan Davies yn sicr efo set ar yr awyren.

12.  Jamie Roberts (Cymru)

Cyn gêm Cymru yn erbyn Lloegr, Manu Tualagi oedd wedi hawlio’r safle gyda’i rediadau ffrwydrol a dinistriol. Yn ystod y gêm honno fe ollyngodd y bêl efo’r llinell gais yno i’w chroesi gan fethu â phasio’r bêl ddwywaith, oherwydd ei ddiffyg gallu, lle roedd yna gais yn debygol. Bydd angen cymryd pob cyfle yn Awstralia.

11. George North (Cymru)

Be all rhywun ddeud am y cawr 20 oed? Gogzilla, yr asgellwr gorau o’i fath yn y byd.

10. Jonathan Sexton (Iwerddon)

Cyn y Chwe Gwlad fo oedd y ffefryn am y safle ac er ei fod  wedi ei anafu am hanner y bencampwriaeth does yr un maswr arall wedi gwneud digon i’w ddisodli.

Fyddai’n synnu os na fydd Dan Bigger ar yr awyren hefyd.

9. Mike Phillips (Cymru)

Dwi ddim yn un ffans mwyaf sgiliau dosbarthu Mike, ond fe sgubodd pob rhif naw arall i’r naill ochr yn ystod y Chwe Gwlad.

1. Cian Healy (Iwerddon)

Sgrymiwr cryf a rhedwr pwerus. Wedi bod y mwyaf cyson o’r holl bropiau pen rhydd. Heblaw am y gêm yn erbyn Lloegr, tydi Gethin Jenkins heb ddisgleirio’n gyson eleni.

2. Richard Hibbard (Cymru)

Sgrymiwr a rhedwr cryf ac mae sŵn y gwrthdaro o’i daclo yn dal i atseinio yn fy nghlustiau.

3. Adam Jones (Cymru)

Prop pen-tyn gore Ewrop.

4. Joe Launchbury / Geoff Parling (Lloegr)

Roedd Launchbury wedi chwarae’n dda ar ddechrau’r gystadleuaeth tra bod  Parling wedi tyfu wrth i’r bencampwriaeth ddatblygu, gan orffen efo perfformiad gwych yn erbyn Cymru.

Gallai rhywun ddewis un o’r ddau.

5. Alun Wyn-Jones (Capten) (Cymru)

Er gwaethaf sylwadau diweddar Gatland, er mwyn bod yn gapten ar unrhyw dîm rhaid i’r person yna fod yn sicr o’i le. Ar ôl dychwelyd i’r cochion fe wnaeth Jons argraff yn syth a chodi safon y tîm i lefel arall.

6. Sean O’Brien (Iwerddon)

Anifail o ddyn sydd yn ddinistriol yn ardal y dacl ac wrth gario’r bêl. Mi fysa Dan Lydiate wedi ei wthio’n agos am y safle petai wedi bod yn holliach am y tymor. Bydd gan Chris Robshaw, Ryan Jones a Sam Warburton gyfle i fod yn rhan o’r pymtheg cyntaf.

7. Justin Tipuric (Cymru)

Dwi’n ffan anferth o Sam Warburton ac yn meddwl ei fod, yn ei gyfanrwydd, yn well chwaraewr ’na Tipuric. Ar y llaw arall efo pump blaen anferth a rheng-ôl sy’n gallu gwneud y gwaith caib a rhaw, bydd gan Tipuric ryddid i wneud be mae o’n wneud ore – dwyn y bêl yn ardal y dacl a bod yn ddolen gyswllt effeithiol rhwng y cefnwyr a’r blaenwyr.

8. Toby Faletau (Cymru)

Ar ddechrau’r Bencampwriaeth fyswn i wedi dewis Jamie Heaslip, ond mae o’n un o’r nifer o Wyddelod â oedd yn siomedig yn ystod y Chwe Gwlad. Mae gan Ben Morgan, o’r Sgarlets gynt, gyfle da i fod ar yr awyren ac i wthio Faletau am y safle oherwydd ei allu i gario’r bêl. Ond i mi mae Faletau yn gallu gwneud pob dim sy’n ddisgwyliedig o wythwr – ac mae o’n Gymro!!!

Ydach chi’n cytuno efo Owain? Ydy’r Llewod yn berthnasol? Trafodwch isod…