George North
Rhaid i Undeb Rygbi Cymru ddod i’r parti os ydyn nhw am gadw’r chwaraewyr gorau yng Nghymru.

Dyna ddywedodd seren Cymru a’r Llewod, Gareth Edwards  wrth Golwg360 wrth ymateb i’r newyddion y gallai asgellwr y Scarlets a Chymru, George North, ymuno â chlwb Northampton y tymor nesaf.

Cadarnhaodd asiant North yn gynharach heddiw fod y chwaraewr a’r clwb mewn trafodaethau.

Dywed Gareth Edwards mai llwyddiant y tîm cenedlaethol yw un o’r prif resymau am y sylw sy’n cael ei hawlio gan y chwaraewyr.

“Mae pob un yn mynd o fewn golwg timau Lloegr achos y ffordd maen nhw’n whare.

“Allwn ni ddim fforddio’u cadw nhw wedyn.

“Rhaid i Undeb Rygbi Cymru ddod i’r parti os y’n nhw am gadw’r chwaraewyr yma, ond dy’n nhw jyst ddim yn barod i wneud ’ny.

“Mae mwy a mwy o chwaraewyr yn mynd i fynd.

“Ry’n ni wedi bod lawr yr heol yma o’r blaen ac rwy’n dechrau mynd i ddiflasu am y peth.”