Shane Williams
Owain Gwynedd sy’n crynhoi llwyddiant Cymru dros y penwythnos…

Wow! Am benwythnos o chwaraeon i Gymru.

  • Abertawe yn ennill Cwpan Capital One.
  • Caerdydd yn ymestyn eu mantais ar frig y Bencampwriaeth i wyth pwynt.
  • Wrecsam drwodd i rownd derfynol Tlws yr FA yn Wembley.
  • Casnewydd a Wrecsam yn arwain y Gyngres.
  • Becky James yn Bencampwraig y Byd mewn dwy gamp ar y trac beicio a’r person cyntaf o Brydain i ennill pedair medal.
  • Cymru yn curo’r Eidal 26 – 9 i ennill pum gêm yn olynol oddi cartref yn y 6 gwlad am y tro cyntaf erioed.

Pwy fysa’n meddwl bod Cymru efo’r cyfle i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl colli i’r Gwyddelod yn y gêm gyntaf?

Ers hynna mae curo Ffrainc (16 – 6) ac wedyn Yr Eidal (26 – 9) wedi rhoi pob cyfle i gyflawni’r dasg honno ond, wrth gwrs, mae’n haws dweud na gwneud.

Rhaid curo’r Alban, sydd yn gydradd ail gyda Chymru, yn swmpus yn Murryfield er mwyn sicrhau bod y gwahaniaeth pwyntiau ddim yn rhy uchel pan fydd Lloegr yn ymweld â Stadiwm y Mileniwm.

Cymru v Yr Eidal

Be sydd yna i ddeud am gêm Yr Eidal?

Mi oedd hi’n gêm ddifrifol oherwydd y tywydd, gorfod gwylio cic ar ôl cic ar ôl cic.

Roedd rhywun dim ond yn gorfod edrych ar Twitter i weld pawb yn trafod salwch y sylwebydd Andrew Cotter ar y BBC, a Jonathan Davies ac wedyn Huw Llywelyn Davies yn gorfod camu i’r adwy er mwyn achub y dydd yn fwy diddorol na’r gêm ei hun.

Y Da

Y pethau positif am  y gêm oedd bod sgrym Cymru wedi gosod ei stamp ar flaenwyr cryf a sgrym adnabyddus yr Azzurri yn enwedig ar ôl gwegian yn erbyn y Ffrancwyr.

Pan ddaeth y cyfleoedd prin i sgorio cais mi wnaeth Jonathan Davies ac Alex Cuthbert yn dda i gymryd nhw, lle yn y gorffennol mae Cymru wedi bod yn wastraffus.

Yn olaf, Leigh Halfpenny. Gem wych arall lle cafodd ei wobrwyo yn ‘seren y gêm’ ac, fel y gwnaeth Shane Williams ei ddisgrifio fo, “Mr Reliable”. Mi oedd yr amgylchiadau yn rai oedd am brofi unrhyw gefnwr i’r eithaf ac yn ffodus i Gymru fe wnaeth o ateb pob un ac yn fy marn i fydd o’n ateb gofynion y Llewod yn yr haf.

Yn sicr, o ran perfformiad cyflawn y tîm mi oedd hi’n gam ymlaen ac yn welliant.

Y Drwg

Heblaw’r ffaith bod y gêm am fod yn ddiflas cyn i’r chwiban gyntaf cael ei chwythu, yr unig beth wnaeth codi pryder i mi oedd llinell y Cochion.

Mi oedd colli’r tafliad gyntaf efo tafliad hir dros ben pawb yn y munudau cyntaf wedi gosod y dôn i be oedd am ddod. Llinell oedd o dan gryn dipyn o bwysau ac yn ei chael hi’n anodd sicrhau meddiant glan.

Yn erbyn Y Gwyddelod mi wnaeth Yr Albanwyr rheoli’r llinellau a sbwylio nifer o linellau’r Gwyddelod. Os am fod yn llwyddiannus yn erbyn yr Albanwyr ac unrhyw dîm arall mae’n rhaid bod yn sicr o’r meddiant o’r llinellau, felly fydd rhaid gwella ar yr elfen yma o chwarae.

Er mwyn gwneud hynny dwi’n teimlo bydd dewis Alun Wyn-Jones cyn Andrew Coombs o help a hyd yn oed Sam Warburton cyn Justin Tipuric. Fydd yr un olaf llai tebygol na’r cyntaf os ydi Rob Howley am gadw ffydd yn y tîm sydd wedi ennill y ddwy gêm ddiwethaf.

Canlyniadau Eraill

Tîm Merched – Yr Eidal 15 – 16 Cymru

Tîm Dan 20 –  Yr Eidal 10 – 25 Cymru

Tîm Dan 18 –  Yr Eidal 8 – 41 Cymru

Y tîm dan 20 ydi’r unig dîm efo’r cyfle i gyflawni’r gamp lawn.