Owain Gwynedd sy’n edrych yn ôl ar rygbi’r penwythnos, ac ymlaen at obeithion Cymru yn y bencampwriaeth.

Dwi’n casáu bod yn anghywir ond ar yr achlysur yma, pan dwi wedi darogan bod Ffrainc am ennill, dwi wrth fy modd.

Dyma ddau dîm oedd dan gryn dipyn o bwysau ar ddechrau’r gêm gan wybod os oedden nhw am golli hon roedd y freuddwyd o fod yn bencampwyr drosodd. I Gymru mae’r freuddwyd dal yn fyw.

Roedd hi’n fuddugoliaeth emosiynol a ddaeth â rhediad o wyth colled yn olynol i ben a roedd y pleser a’r rhyddhad o ennill yn glir ar wynebau’r chwaraewyr, hyfforddwyr a’r cefnogwyr triw.

Y cawr Jamie Roberts mewn dagrau yn ystod cyfweliad ar y teledu – mi oedd y balchder yn y crys coch yn glir i bawb.

Doedd y perfformiad yn bell o fod yn glasur ond y peth pwysicaf oedd ennill.

Edrych Ymlaen

Rhaid bod yn ofalus i beidio edrych rhy bell ymlaen ar ôl ennill dim ond un gêm – ond mae’n anodd peidio.

Yn dilyn buddugoliaeth Lloegr dros Iwerddon ddoe gall Lloegr, os maen nhw’n curo Ffrainc a’r Eidal, fod yn teithio i Stadiwm y Mileniwm er mwyn ceisio cyflawni’r Gamp Lawn yn rownd olaf y gemau.

Ar y llaw arall, gall Cymru, os maen nhw’n curo’r Eidal ac wedyn Yr Alban, fod yn bencampwyr gyda buddugoliaeth o nifer penodol o bwyntiau dros y Sais. Pwy oedd yn meddwl byddai hynna’n bosib ar ôl teimlo mor isel yn ystod yr wythnos ddiwethaf?

Y Presennol

Cyn rhoi’r cart rhy bell o flaen y ceffyl rhaid asesu’r perfformiad yn erbyn y Ffrancwyr ac adeiladu ar gryfderau’r perfformiad a’r hyder a fagwyd ohono.

Ar y cyfan mi oedd pob agwedd o chwarae wedi gwella mewn wythnos.

Mi oedd yr amddiffyn yn arwrol a dyna oedd sylfaen y fuddugoliaeth. Hyd yn oed os oedd y Ffrancwyr isel eu hysbryd ac yn bell o fod ar eu gorau mi oedd cadw tîm llawn talent i ddim ond chwe phwynt yn wych.

Er hynny mae yna ddigon o elfennau sydd angen eu cryfhau.

Rhaid gwella’r darnau gosod. Mi oedd y sgrym yn gwegian a’r llinell, fel yn hanesyddol, ddim yn berffaith. Rheina ydi sylfaen pob ymosod, a’r fwyaf cadarn ydyn nhw  yr haws ydi defnyddio arfau pwerus megis George North, Alex Cuthbert a Jamie Roberts.

Mae angen manteisio ar eu cryfder corfforol ond unwaith eto dim ond ymosodiadau undonog a oedd yn trio waldio’r bêl lawr gorn gwddf amddiffyn y tîm cartref oedd y dacteg a ddefnyddiwyd. Rhaid cael ychydig bach fwy o amrywiaeth  a dychymyg, lle mae’r bêl yn neud y gwaith a dim dim ond nerth bôn braich.

Os bydd Cymru yn gallu cryfhau ar yr uchod a stopio’r cam drafod bychain sydd yn lladd unrhyw fomentwm ymosodol mewn sefyllfaoedd peryglus, fel y digwyddodd yn yr ugain munud cyntaf dydd Sadwrn, fydd fawr ddim fydd Yr Eidal nac Yr Alban yn gallu gwneud i’n hatal. Wedyn geith y cart a cheffyl garlamu ymlaen i sbwylio parti Lloegr yn y gêm derfynol.