Brendan Rogers - balch o'r Elyrch
Coventry City 0 Abertawe 1

Mae rheolwr Abertawe wedi canmol ei dîm am ddal ati ar ôl i’w buddugoliaeth hwyr yn erbyn Coventry godi’r Elyrch i’r ail safle yn y Bencampwriaeth.

Dim ond ers pedwar munud yr oedd yr eilydd Stephen Dobbie ar y cae pan sgoriodd unig gôl y gêm gyda chwarter awr yn weddill i sicrhau’r pwyntiau llawn i Abertawe.

Roedd yr ymosodwr eisoes wedi taro’r postyn cyn canfod cefn y rhwyd am ei gôl gyntaf ers mis Medi.

Codi i’r ail safle

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Abertawe yn yr ail safle holl bwysig ar gyfer dyrchafiad awtomatig.

Maen nhw un pwynt o flaen Caerdydd yn y trydydd safle ond bum pwynt y tu ôl i QPR, a lwyddodd i ddwyn buddugoliaeth yn erbyn Ipswich.

Ond fe ollyngodd Nottingham Forest ddau bwynt wrth gael gêm gyfartal yn erbyn Preston – fe fyddai buddugoliaeth wedi eu cadw uwchben Abertawe gydag un gêm ychwanegol i’w chwarae.

Mae gan yr Elyrch gêm hollbwysig arall ddydd Sadwrn, yn erbyn Leeds, sy’n chweched ar ôl cael gêm gyfartal 3-3 gyda Barnsley. 

Ymdopi â’r pwysau

Roedd Brendan Rodgers wrth ei fodd gyda’r ffordd yr ymdopodd ei dîm â’r pwysau oedd arnyn nhw. 

“Roedd yn gêm anodd i ni ond roedden ni’n ymwybodol o’r her cyn dechrau chwarae,” meddai.

“Roedden ni’n gwybod y byddai Coventry’n ffresh ar gyfer y gêm a bod eu steil o chwarae’n golygu y byddai’n rhaid i ni amddiffyn nifer o beli uchel”

“Arhosodd y chwaraewyr yn gadarn i’n cadw ni yn y gêm yn ddigon hir i gymryd rheolaeth a sicrhau buddugoliaeth wych”

“Roedd angen dangos penderfyniad i ennill y gêm a  dyna sydd ei angen os ydych chi am fod yn llwyddiannus.”

“Dyna wythfed buddugoliaeth oddi cartref y tymor yma, ac mae hynny’n record sy’n plesio.”