Craig Bellamy
Mae Craig Bellamy wedi teithio i Ddylun er mwyn cefnogi tîm Cymru yn ystod gêm agoriadol Cwpan y Cenhedloedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon am 7.45pm heddiw.

Doedd cyn-gapten Cymru heb ei gynnwys yng ngharfan wreiddiol Gary Speed oherwydd bod gêm ddarbi Caerdydd yn erbyn Abertawe yn cael ei chwarae deuddydd ynghynt.

Roedd Bellamy wedi rhoi’r gorau i fod yn gapten Cymru ar ôl dweud wrth yr hyfforddwr newydd na fyddai’n gallu chwarae pob gêm oherwydd problem gyda’i bengliniau.

Mae’r ymosodwr wedi chwarae dwy gêm mewn pum diwrnod i’r Adar Glas ac fe fyddai’n ormod o straen ar ei bengliniau i chwarae eto nos yfory.

Er gwaethaf hynny, mae Bellamy wedi penderfynu annog Cymru o’r ystlys yn ystod gêm gyntaf Gary Speed wrth y llyw.