Gary Speed
Mae hyfforddwr Cymru, Gary Speed, wedi cadarnhau mae’r dyn o’r Iseldiroedd, Raymond Verheijen, fydd hyfforddwr cynorthwyol newydd Cymru.

Mae Verheijen, sy’n 39 oed, yn adnabyddus am ei arbenigedd tactegol, cynllunio a chyflyru.

Mae wedi gweithio gyda sawl hyfforddwr byd enwog gan gynnwys Frank Rijkaard, Louis Van Gaal, Guus Hiddink a Dick Advocaat.

Mae Raymond Verheijen wedi cyrraedd y saith prif bencampwriaeth ddiweddar gyda phedwar  gwlad wahanol, sef yr Iseldiroedd, Rwsia, De Korea ac Awstralia.

Fe fydd Cymru’n gobeithio bod ei brofiad sylweddol o gymorth iddynt wrth iddyn nhw frwydro i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth am y tro cyntaf ers 1958.

“Rydw i’n hapus iawn bod Raymond yn rhan o’r tîm hyfforddi,” meddai Gary Speed.

“Fe fydd ei brofiad yn amhrisiadwy ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef dros y blynyddoedd nesaf, gan ddechrau yn erbyn Iwerddon yn Nulyn nos Fawrth.”