Craig Bellamy
Roedd gôl hwyr iawn gan Craig Bellamy yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth oddi cartref i Gaerdydd yn y gêm ddarbi yn erbyn Abertawe heddiw.

Curodd yr Elyrch yr Adar Glas yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd ond fe lwyddodd Bellamy i ddial gydag ergyd o 25 llath.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Dave Jones uwchben eu gwrthwynebwyr lleol i’r trydydd safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

Sgoriodd Bellamy wedi 85 munud ar ôl casglu pas gan Aaron Ramsey a’i daro â’i goes dde i gornel gwaelod y rhwyd er mwyn ennill y gêm.

Daeth cyfle gorau’r gêm cyn hynny yn y munud cyntaf, pan fethodd yr ymosodwr Jay Bothroyd ei darged o 12 llath.

Daeth Caerdydd yn agos eto dwywaith yn olynol yn yr ail hanner, gyda pheniad gan Paul Quinn ac ergyd o 12 llath gan Darcy Blake darodd y postyn.

Roedd Scott Sinclair yn bygwth ar ran Abertawe ond methodd ei darged o chwe llath yn yr 80fed munud.

Ymateb Bellamy

“Do’n i ddim yn haeddu honna am fy mherfformiad yn gyffredinol ond dw i’n fodlon ei chymryd hi!” meddai Craig Bellamy yn dilyn y gêm.

“Mi faswn i wedi licio chwarae’n well. Roedd hi’n gêm ddarbi nodweddiadol – ychydig bach yn fratiog – ond roedd yn dri phwynt gwerthfawr i ni.

“Mae’r ddau glwb wedi cael lot o flynyddoedd llwm ond mae’r ddau ar i fyny ar hyn o  bryd. Dw i wastad wedi bod eisio chwarae mewn darbi fel hon.”