Giggs - y gorau erioed yn Old Trafford
Mae Ryan Giggs wedi ei enwi’n chwaraewr gorau erioed Man Utd yn dilyn pleidlais gan filoedd o gefnogwyr y clwb.

Mae cyn gapten Cymru wedi curo enwogion megis Eric Cantona, Goegre Best a Syr Bobby Charlton i’r anrhydedd.

Dyma’r wobr ddiweddaraf i Giggs mewn gyrfa ddisglair sy’n cynnwys gwneud 859 o ymddangosiadau i’r clwb. Fe fydd y record yna’n cael ei ymestyn ymhellach ar ôl iddo gytuno parhau i chwarae am dymor arall.

Alex Ferguson yn cytuno

Mae rheolwr Man Utd, Syr Alex Ferguson yn credu bod y cefnogwyr wedi gwneud y penderfyniad cywir i ddewis Giggs yn chwaraewr gorau yn hanes Man Utd.

“Dw ddim wedi wedi synnu. Mae hirhoedledd wastad yn cael ei ystyried yn y math yma o beth ac mae Ryan wedi bod yma’n fwy nag unrhyw chwaraewr arall,” meddai.

“Mae newydd chwarae ei 600fed gêm gynghrair, sy’n gyflawniad eithriadol. Fydd yr un chwaraewr arall ddim yn gallu cyflawni’r hyn mae Ryan wedi’i wneud”

“Mae hefyd wedi perfformio i’r safon uchaf am 20 mlynedd. Hyd yn oed nawr 37 oed – mae Ryan yn anhygoel.”

Fe ddywedodd Ryan Giggs ei fod wedi synnu pan glywodd y newyddion ei fod wedi ennill y bleidlais.

“Roedden ni’n methu credu peth. Mae ‘na gymaint o chwaraewyr gwych bod yma,” meddai Giggs.

“Mae’r amser wedi mynd yn gyflym, ond dw i ddim yn barod i orffen. Rwy’n teimlo’n dda ac rwy’n gobeithio parhau am sbel eto.”

Chwaraewyr gorau Man Utd – Y Deg Uchaf
1 Ryan Giggs
2 Eric Cantona
3 George Best
4 Sir Bobby Charlton
5 Cristiano Ronaldo
6 Paul Scholes
7 David Beckham
8 Roy Keane
9 Peter Schmeichel
10) Wayne Rooney