Darren Pratley
Bristol City 0 Abertawe 2
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi canmol ei dîm ar ôl iddyn nhw guro Dinas Bryste yn y Bencampwriaeth a mynd i’r trydydd safle yn yr adran.

Fe sgoriodd Darren Pratley y ddwy gôl y naill ochr i’r llall o hanner amser, a hynny ddiwrnod ar ôl diwedd y cyfnod trosglwyddo pan oedd pryder y byddai’n gadael yr Elyrch.

Fe ddaeth y gyntaf ar ôl deng munud trwy foli o ymyl y cwrt cosbi ar ôl i’r tîm cartref fethu â chlirio’r bêl.

Fe ddaeth yr ail gyda llai na hanner awr yn weddill ac yntau’n sgorio wrth y postyn agosaf.

Dyma oedd y tro cyntaf ers 1989 i’r Elyrch guro Bristol City mewn gêm gynghrair yn Ashton Gate ac roedd Rodgers wrth ei fodd.

Barn Brendan

“Roedden ni’n wych. Fe ddywedais wrth y chwaraewyr nad oes llawer o dimau’n dod yma a chael clod gan y cefnogwyr cartref,” meddai Brendan Rodgers.

“Roedd yr hanner cyntaf yn esiampl o ba mor dda yr ’yn ni’n gallu chwarae heb y bêl a gyda hi.

“Roedden ni’n ymwybodol y byddai Bristol City’n addasu eu tactegau yn yr ail hanner i geisio ein hatal ni rhag chwarae. Ond ar ôl 15 munud o’r ail hanner roedden ni’n ôl yn rheoli unwaith eto.”

Melys

Roedd y fuddugoliaeth yn felysach fyth ar ôl i Abertawe golli i Leyton Orient yng Nghwpan FA Lloegr dros y Sul.

Mae’r Elyrch bellach o fewn un pwynt i Norwich sy’n ail yn y Bencampwriaeth a chwech y tu ôl i QPR ar y brig.