CPD Aberystwyth
Mae gêm gyfartal Aberystwyth yn erbyn Castell-nedd ddydd Sul yn golygu bod tri clwb yn dal i frwydro am le ymysg chwech uchaf Uwch Gynghrair Cymru.

Fe sgoriodd yr ymosodwr, Ricky Evans, gyda chic o’r smotyn wedi pum munud o’r amser ychwanegol ar ddiwedd y 90 munud er mwyn cipio pwynt i Aberystwyth ar y Gnoll.

Does dim disgwyl i ail hanner y tymor ddechrau tan 19 Chwefror ar ôl i eira trwm oedi gemau ym mis Rhagfyr.

Fe fydd Airbus UK yn wynebu’r Bala dydd Sadwrn ac fe fyddai buddugoliaeth yn golygu y byddai’n rhaid i Bort Talbot ennill eu gêm olaf yn erbyn Castell-nedd nos Fawrth nesaf.

Fe fydd Aberystwyth yn wynebu Hwlffordd cyn i’r adran rannu’n ddwy, ond dyw dyddiad y gêm heb ei drefnu eto.

Ond fe fyddai’n rhaid i Airbus UK a Phort Talbot golli er mwyn cynnal gobeithion Aberystwyth o fod ymysg y chwe thîm uchaf.