Y Cae Ras
Mae perchnogion Wrecsam wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi dod i gytundeb ynglŷn â gwerthu’r clwb i gwmni arall.

Dywedodd Wrexham Village Ltd eu bod nhw wedi dod i gytundeb gyda Van Morton Investments Ltd.

Fe fydd Van Morton Investments Ltd yn prynu’r clwb cyn gynted a phosib, ac yn prynu’r stadiwm a’r maes ymarfer yn hwyrach ymlaen.

Fe gafodd cwmni Van Morton Investments Ltd ei sefydlu’n ddiweddar gyda’r nod o ddenu a darparu cyllid yn Wrecsam.

Cadeirydd

Mae Robert Bickerton o Van Morton Investments Ltd wedi cael ei benodi’n gadeirydd y clwb, ac mae Tony Allan wedi ei benodi’n brif weithredwr y clwb.

Mae’r perchnogion cynt, Geoff Moss ac Ian Roberts, wedi rhoi’r gorau i’w swyddi ar ffwrdd Wrecsam ond fe fyddan nhw’n is-lywyddion ar y clwb.

Mae gan Tony Allan brofiad o weithio i glybiau pêl droed ar ôl cyfnodau’n ysgrifennydd clybiau Notts County, Wigan Athletic, Dinas Caer a Port Vale.

Dywedodd Robert Bickerton ei fod ef a Tony Allan yn falch iawn o gael ymuno gyda bwrdd cyfarwyddwyr Wrecsam.

“Mae gennym ni’r uchelgais syml o greu sylfaen ariannol cadarn i’r clwb yn ogystal â sicrhau dyfodol y stadiwm,” meddai Robert Bickerton.

“Fe fyddwn ni’n selio unrhyw benderfyniadau ar les y clwb. Does dim cymhelliad arall gennym ni.”