Danny Gabbidon mewn crys West Ham United (llun o wefan y clwb)
Mae Caerdydd yn gobeithio cwblhau cytundeb i arwyddo amddiffynnwr West Ham, Danny Gabbidon, cyn i’r ffenestr trosglwyddo gau heddiw.

Mae’r Cymro heb chwarae’n gyson i glwb yr Uwch Gynghrair yn ddiweddar ond mae rheolwr West Ham, Avram Grant, yn awyddus i’w gadw.

Mae West Ham yn brwydro i osgoi colli eu lle yn Uwch Gynghrair Lloegr ac mae Grant yn benderfynol o gael carfan gref yn ystod ail hanner y tymor.

Ond mae cytundeb presennol Gabbidon yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac nid yw’n debygol o arwyddo un newydd gyda’r Hammers.

Mae asiant Gabbidon, Jamie Moralee wedi dweud mai Caerdydd yw’r unig glwb y mae’r amddiffynnwr eisiau ymuno ag o.

Treuliodd yr amddiffynnwr pum mlynedd gyda’r clwb cyn gadael am Lundain yn 2005.

Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, eisoes wedi dweud ei fod yn awyddus i arwyddo amddiffynnwr newydd yn ystod mis Ionawr.