Prestatyn 2-1 Port Talbot

Roedd drama hwyr yng Ngherddi Bastion o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn wrth i Brestatyn gipio buddugoliaeth yn erbyn deg dyn Port Talbot gyda chic o’r smotyn yn hwyr hwyr yn y gêm.

Hanner Cyntaf

Daeth cyfle cyntaf y gêm i Brestatyn wedi dim ond dau funud, Ross Stephens yn troi yn y cwrt ond ei foli yn wan ac yn syth at Bartek Fogler yn y gôl i’r ymwelwyr. Methodd Stephens hanner cyfle arall wedi naw munud.

Bu rhaid aros 17 munud cyn cyfle cyntaf Port Talbot ond roedd cic rydd David Brooks yn syth at gôl-geidwad Prestatyn, Dave Roberts.

Daeth y gôl agoriadol i Brestatyn wedi 22 munud. Dyfarnwyd cic rydd i’r tîm cartref ar ochr y cwrt cosbi wedi i Paul Cochlin lorio Michael Parker yn dilyn rhediad pwrpasol gan y chwaraewr canol cae. Stephens gymrodd y gic gan dwyllo Fogler a gosod y bêl yn gywir yng nghornel isaf y rhwyd gyda’i droed chwith, 1-0 i Brestatyn.

Cafodd Port Talbot gyfle da toc wedi hanner awr o chwarae, gwaith da ar yr asgell chwith gan Paul Keddle a chroesiad da i’r postyn pellaf ond peniad gwan yn syth at y golwr gan Lee John. A daeth eu cyfle gorau o’r hanner ddau funud cyn yr egwyl wrth i Brooks chwarae’r bêl ar draws y cwrt cosbi i gyfeiriad Dylan Blain ond methodd yntau gyfle euraidd o chwe llath.

Prestatyn ar y blaen ar yr egwyl felly ond yr ymwelwyr o Bort Talbot yn dod fwyfwy i mewn i’r gêm fel yr oedd yr hanner cyntaf yn mynd rhagddo.

Bu bron i David Hayes ddyblu mantais Prestatyn wedi deg munud o’r ail hanner gyda pheniad gwych o gic gornel Neil Gibson, ond yn anffodus i amddiffynnwr y tîm cartref roedd arbediad Fogler hyd yn oed yn well.

Cerdyn Coch

Roedd Port Talbot i lawr i ddeg dyn ychydig eiliadau yn ddiweddarach wedi i Gareth Phillips weld cerdyn coch am dacl flêr ar Stephens. Roedd hi’n dacl wael ond doedd hi ddim gwaeth na thacl amddiffynnwr Prestatyn, Paul O’Neill bum munud yn gynharach.

Ond y deg dyn a gafodd y cyfle nesaf wedi awr o chwarae. Methodd Prestatyn a chlirio’r bêl o gic gornel ond methodd Lewis Harlin a Chris Hartland gyfleoedd gwych i unioni’r sgôr. Dylai Port Talbot fod wedi cael cic o’r smotyn ddau funud yn ddiweddarach pan droseddwyd Brooks yn y bocs ond gwrthod ei rhoi a wnaeth y dyfarnwr.

Cafodd Steve Rodgers gyfle da i selio’r gêm i Brestatyn gyda deuddeg munud yn weddill yn dilyn pêl hir wych gan Stephens ond roedd ergyd y blaenwr yn wan.

Eilydd yn Gwneud Gwahaniaeth

Penderfynodd rheolwr Port Talbot, Mark Jones yrru Cortez Belle ar y cae gyda deg munud yn weddill er bod y blaenwr yn dioddef gydag anaf. Roedd hi’n dipyn o risg ond un a dalodd ar ei chanfed ddau funud yn ddiweddarach wrth i’r eilydd chwarae rhan allweddol mewn gôl i Bort Talbot. Gwrthymosododd yr ymwelwyr yn gyflym a chafwyd cyd chwarae da rhwng Keddle a Belle ar yr asgell chwith cyn i Hartland orffen y symudiad yn dilyn croesiad perffaith Belle. Gôl dda a gôl haeddianol i’r Gwŷr Dur, 1-1 gydag wyth munud ar ôl.

Drama Hwyr

Byddai gêm gyfartal wedi bod yn ganlyniad teg ac roedd hi’n edrych mai dyna fyddai’r canlyniad hefyd cyn y ddrama hwyr.

Roedd dau funud o’r amser a ganiateir am anafiadau wedi’u chwarae pan ddyfarnwyd cic o’r smotyn i Brestatyn yn dilyn troed uchel yn y cwrt cosbi gan gapten Port Talbot, Paul Cochlin. Cymerodd Gibson y gic ac arbedodd Fogler yn wych yn isel i’w dde. Ond doedd y ddrama ddim drosodd gan i’r dyfarnwr farnu fod y golwr o Wlad Pwyl wedi camu oddi ar ei linell i wneud yn yr arbediad.

Ail gyfle i Brestatyn felly gyda 94 munud bellach ar y cloc. Rhoddodd Gibson yr awenau i Stephens ar gyfer yr ail gic a sgoriodd yntau’n hyderus i gornel isaf y rhwyd.

Diweddglo dramatig yng Ngerddi Bastion felly a Phrestatyn yn trechu Port Talbot mewn gêm a oedd yn llawn o benderfyniadau dadleuol. Hawdd deall bod Mark Jones wedi ei siomi a does dim dwywaith mai gyda’i dafod yn ei foch y dywedodd ar ddiwedd y gêm:

“Beth alla’i ddweud, roedd y dyfarnwr yn wych, yn anhygoel, roedd e’ mor dda fyddwn i ddim yn synnu ei weld e’n cael gêm Gwpan y Byd ar ôl heddiw.”

Rheolwr anhapus iawn yn teithio’n ôl i’r de heno felly ac i rwbio’r halen yn y briw mae Port Talbot yn disgyn i’r wythfed safle o ganlyniad i’r golled. Mae Prestatyn ar y llaw arall yn aros yn chweched bum pwynt yn glir o Airbus yn y seithfed safle.

Gwilym Dwyfor Parry