Mae’r Cymro Rabbi Matondo wedi’i gynnwys yn nhîm Schalke am y tro cyntaf ers i gemau gael eu cynnal yn y Bundesliga eto ar ôl y coronafeirws.

Mae ei dîm yn croesawu Augsburg mewn gêm sy’n dechrau am 12.30yp.

Fe ddaeth i’r cae o’r fainc yn y golled o 4-0 yn erbyn Dortmund yn y gêm gyntaf i’w chynnal ers y cyfnod gwarchae.

Mewn erthygl ar wefan y BBC, mae’n dweud bod y profiad o chwarae mewn stadiwm heb dorf “ymhell o fod yn ddelfrydol”, a bod y tîm wedi gorfod aros mewn gwesty am wythnos cyn y gêm gyntaf.

‘Profiad rhyfedd’

“Roedden ni ar wasgar ar y bws oherwydd rheolau ymbellháu cymdeithasol,” meddai.

“Roedd hi’n dawel ac roedden ni’n eistedd ar wahân gyda’n clustffonau ymlaen, oedd yn anaferol oherwydd fel arfer, bydden ni’n trafod y gêm.

“… Roedd hi’n rhyfedd i ddechrau, yr holl brofiad wrth gyrraedd y stadiwm, oedd yn wag bron iawn.

“Fel arfer yn y twnnel, rydych chi’n sefyll yn ymyl y tîm arall ond y tro hwn, aeth Dortmund allan gyntaf, ac fe ddaethon ni allan ar wahân.

“Roedd hynny’n rhyfedd. Roedd hi fel chwarae yn y parc gyda’ch ffrindiau!”

Mae’n dweud ymhellach nad oedd “tensiwn” yn yr awyrgylch cyn dechrau’r gêm.

“Roedd hi’n destun siom nad oedd y cefnogwyr yno ond i fi, dw i’n credu ei bod hi hefyd yn bwysig fod y bobol sy’n aros gartref yn cael eu diddanu.

“Dw i’n falch ein bod ni wedi gallu dechrau’r Bundesliga eto i roi rhywbeth i’r cefnogwyr, er nad yw’n ddelfrydol nad oedden nhw’n gallu bod gyda ni.”

Ymbellháu cymdeithasol

Roedd Rabbi Matondo ymhlith yr eilyddion oedd yn eistedd ddwy fetr ar wahân ar yr ystlys, ac mae’n dweud mai dyna’r peth “mwyaf rhyfedd”.

“Fel arfer ar y fainc, rydych chi’n eistedd gyda’ch gilydd yn siarad am y gêm neu’n trafod beth fyddwch chi’n ei wneud pan fyddwch chi’n dod ymlaen, bob amser yn asesu,” meddai.

“Ond y tro hwn, roedd hi fel pe baech chi’n gwylio’r gêm ar eich pen eich hun.”

‘Teimlo’n ddiogel’

Mae’n dweud bod y sefyllfa yn yr Almaen yn gwneud i’r chwaraewyr “deimlo’n ddiogel”.

“Mae popeth wedi cael ei wneud yn ofalus,” meddai.

“Mae tipyn o feddwl yn rhan o’r broses, a’r manylion yn gywir iawn.

“Mae gyda ni ein hystafelloedd newid ein hunain wrth ymarfer, rydyn ni i gyd y gwisgo mygydau ac mae popeth yn cael ei wneud mewn ffordd broffesiynol, fel y dylai fod.

“Dw i’n teimlo’i fod e mor ddiogel â phosib ac ar hyn o bryd, dw i’n teimlo fel pe bai popeth yn mynd yn berffaith yn nhermau’r canllawiau iechyd.”

‘Yr Almaen yn esiampl i bawb’

Wrth i Gymru a gweddill Prydain barhau heb bêl-droed, dywed Rabbi Matondo y gall yr Almaen fod yn esiampl iddyn nhw.

“Mae fy ffrindiau nôl adre’n mynd yn rhwystredig nawr,” meddai.

“Pan dw i’n dweud wrthyn nhw sut mae’r sefyllfa yn yr Almaen, maen nhw’n dweud wrtha i eu bod nhw’n difaru nad yw’r un yn wir yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

“Mae’n rhwystredig, ond dw i’n dal i ddweud wrthyn nhw am fod yn bositif, a throi’r pethau negyddol yn bositif.”