Mae Craig Bellamy, cyn-ymosodwr tîm pêl-droed Cymru, wedi datgelu ei fod wedi dioddef o iselder.

Mewn cyfweliad gyda Sky Sports, dywed Craig Bellamy ei fod wedi bod yn cymryd meddyginiaeth ers tair blynedd a bod anafiadau wedi gwneud ei gyflwr yn waeth.

“Ers y tair i bedair blynedd diwethaf, dw i wedi cael diagnosis o iselder,” meddai mewn cyfweliad â Sky Sports.

“Dwi’n ddyn isel ac alla i ddim osgoi hynny.

“Dw i wedi bod ar feddyginiaeth ers tair blynedd a dyma’r tro cyntaf i mi siarad am y peth.

“Doedd yr anafiadau ddim yn help. Roedden nhw mor anodd i’w goresgyn.

“Nid fel hyn roeddwn i’n disgwyl i fy ngyrfa bêl-droed fod.

“Doeddwn i ddim eisiau rhedeg, roedd yn brifo gormod.”

Gyrfa

Chwaraeodd Bellamy 78 o weithiau dros Gymru ac fe sgoriodd 81 o goliau mewn bron i 300 o gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Fe wnaeth Craig Bellamy ymddeol yn 34 oed ar ddiwedd tymor 2013-14, a hynny ar ôl iddo ddychwelyd i chwarae i Gaerdydd.

Mae e bellach yn gweithio fel hyfforddwr tîm dan 21 clwb Anderlecht yng Ngwlad Belg.

Roedd yn siarad yn ystod wythnos i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.