Mae canu caneuon gwrth-Gymreig a gwrth-Seisnig mewn gemau pêl-droed yn “blentynnaidd”, yn ôl llefarydd ar ran criw o gefnogwyr tîm Caerdydd.

Daw’r ymateb yn dilyn cadarnhad fod cefnogwyr y ddau dîm wedi cael eu harestio gan Heddlu Thames Valley ar amheuaeth o “sarhad hiliol” yn ystod gêm rhwng Caerydd a Reading yng Nghwpan FA Lloegr brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 25).

Y gred yw fod y troseddau’n ymwneud â chanu caneuon at gefnogwyr y naill dîm a’r llall, a bod stiwardiaid yn Stadiwm Madejski wedi rhoi gwybod i’r heddlu am sawl digwyddiad.

Mae’r ddau glwb wedi ymateb i’r newyddion fod yr heddlu a Chymdeithas Bêl-droed Lloegr yn cynnal ymchwiliad.

‘Trosedd hiliol? Go brin’

Yn ôl llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd, ddylai cefnogwyr yn canu caneuon yn sarhau ei gilydd ddim cael ei hystyried yn “drosedd”.

Ond ar yr un pryd, mae’n dweud nad oes lle i “unrhyw hiliaeth na homoffobia”.

“Lle’r o’n i’n sefyll yng nghanol y dorf gyda chefnogwyr Caerdydd, oni bai am y caneuon gwrth-Seisnig arferol, doedd dim byd yn wahanol i unrhyw gêm Caerdydd arall y tymor hwn,” meddai wrth golwg360.

“Yn bersonol, mae canu am Loegr fel hyn, i fi, yn blentynnaidd.

“Ond o ystyried y caneuon a’r gweiddi gwrth-Gymreig a geir pob tro mae Caerdydd yn chwarae, go brin mai trosedd hiliol yw hyn.

“Nid yw’r Ymddiriedolaeth na’r clwb, nac yn wir y teulu pêl-droed, am ddioddef unrhyw hiliaeth na homoffobia.”