Casnewydd 1–1 Stevenage
Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Gasnewydd groesawu Stevenage i Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.
Roedd angen gôl hwyr Jamille Matt i achub pwynt i’r Alltudion.
Rhoddodd Emmanuel Sonupe yr ymwelwyr ar y blaen wedi dueddeg munud ar ôl i Josh Sheehan golli’r bêl mewn safle perygus.
Daeth Padraig Amond yn agos at unioni pethau wedi’r egwyl ond bu rhaid aros tan yr ail funud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm am beniad Matt i gipio pwynt.
Mae’r pwynt hwnnw yn rhoi tîm Mike Flynn yn ddeuddegfed yn y tabl.
.
Casnewydd
Tîm: Townsend, McNamara (Collins 79’), O’Brien (Bennett 45’), Demetriou, Haynes, Sheehan, Dolan (Abrahams 45’), Maloney, Nurse, Amond, Matt
Gôl: Matt 90+2’
.
Stevenage
Tîm: Farman, Vancooten, Cuthbert, Nugent, Denton, List (Timlin 76’), Carter, Digby, Sonupe (Mackail-Smith 86’), Lakin, Guthrie
Gôl: Sonupe 12’
Cerdyn Melyn: Denton 90+3’
.
Torf: 3,556