Caerdydd 1–0 Stoke                                                                          

Dathlodd Caerdydd gêm gartref gyntaf Neil Harris wrth y llyw gyda buddugoliaeth dros Stoke yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Roedd gôl gynnar Leandro Bacuna yn ddigon i fynd â hi i’r Adar Gleision yn Stadiwm y Ddinas.

Deg munud a oedd ar y cloc pan rwydodd Bacuna, y chwaraewr canol cae yn gorffen yn dda o ongl dynn yn dilyn gwaith da Gary Madine o daflied hir Lee Peltier.

Bacuna a Lee Tomlin a ddaeth agosaf at ychwanegu ail i’r tîm cartref yn yr ail hanner ond roedd un yn ddigon i Harris sicrhau ei dri phwynt cyntaf fel rheolwr Caerdydd.

Mae’r canlyniad yn eu codi i’r degfed safle yn y tabl, bedwar pwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Nelson, Flint, Bennett, Bacuna, Pack, Mendez-Laing (Paterson 74’), Tomlin (Vaulks 82’), Hoilett, Madine (Bogle 80’)

Gôl: Bacuna 11’

Cerdyn Melyn: Tomlin 81’

.

Stoke

Tîm: Butland, Carter-Vickers, Batth, Martins Indi, Ward, Ince, Ndiaye (Powell 69’), Woods, Allen, Clucas (Hogan 82’), Gregory (Vokes 58’)

Cerdyn Melyn: Woods 61’

.

Torf: 20,884