Wrecsam 0–0 Rochdale                                                                   

Bydd yn rhaid i Wrecsam deithio i Stadiwm Spotland i ail chwarae eu gêm rownd gyntaf Cwpan FA yn erbyn Rochdale yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr ar y Cae Ras brynhawn Sul.

Roedd talcen caled yn wynebu’r Dreigiau wrth iddynt groesawu tîm o’r Ail Adran, dwy gynghrair yn uwch na hwy, i ogledd Cymru.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r gêm serch hynny, gyda Ben Tollitt yn taro’r postyn wedi dim ond chwarter awr yn dilyn rhediad da.

Daeth y pren i’r adwy i’r ymwelwyr unwaith eto yn yr ail hanner wrth i Akil Wright gael ei atal.

Dyna’r agosaf a ddaeth y gêm at gôl a bydd yn rhaid i’r ddau dîm wneud y cyfan eto yn Rochdale mewn wythnos a hanner.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Carrington, Lawlor, Pearson, Jennings, Summerfield, Young, Wright, Rutherford, Grant, Tollitt (Harris 45’)

Cerdyn Melyn: Jennings 87’

.

Rochdale

Tîm: Sanchez, Keohane, O’Connell, Ryan, Norrington-Davies, Williams, Morley (Tavares 55’), Camps, Pyke (McLaughlin 67’), Henderson, Done (Andrew 84’)

.

Torf: 3,274