Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod y cefnogwyr bob amser yn ei “yrru” – nid lleiaf cyn y gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd yn Stadiwm Liberty yfory (dydd Sul, Hydref 27).

Dyma fydd gêm ddarbi gynta’r rheolwr sy’n enedigol o Bontypridd, ac yntau wedi’i benodi i brif swydd yr Elyrch yn yr haf yn dilyn ymadawiad Graham Potter am Brighton.

Hon hefyd yw’r gêm ddarbi gyntaf rhwng dwy ddinas fwyaf Cymru ers 2014.

Ers symud i Abertawe, meddai Steve Cooper, aeth yr un wythnos heibio heb fod cefnogwyr yn ei atgoffa o bwysigrwydd y gêm y mae nifer yn ei ystyried yr un bwysicaf ohonyn nhw i gyd yn y calendr.

“Dw i ddim wedi gweld llawer o bobol yr wythnos hon – dw i’n mynd i’r cae ymarfer ac yn ôl i le dw i’n aros,” meddai.

“Ond ers y diwrnod cyntaf i fi fod yma, fu yna’r un wythnos heb fod y gêm wedi cael ei chrybwyll, felly dw i’n llwyr ymwybodol o’i phwysigrwydd.

“Yr adeg pan dw i wedi cael fy stopio fwyaf yw wrth fynd i redeg.

“Dw i’n trio mynd allan bob dydd ac mae yna gymuned redeg fawr yn Abertawe, ac mae yna lawer o bobol bob amser i lawr [ar y traeth] yn rhedeg.

“Dyna le mae’r rhan fwyaf o bobol wedi bod yn fy holi am y penwythnos, a dw i’n gorfod stopio fy watsh bob tro mae’n digwyd oherwydd dw i’n meddwl ’mod i’n mynd am ‘PB’ – er, dw i ddim yn gyflym iawn!”

Caredigrwydd y gymuned

 Ac yntau wedi cael croeso cynnes yn y gymuned yn Abertawe, dywed Steve Cooper ei fod e’n awyddus i ddiolch i’r cefnogwyr a thrigolion y ddinas gyda chanlyniad da yfory.

“Fe wna i stopio bob tro, oherwydd mae pobol wedi bod yn wych tuag ata’ i a dw i’n gwerthfawrogi hynny,” meddai.

“Dw i’n ei ddefnyddio fel dyletswydd i wneud fy ngorau bob dydd.

“Maen nhw’n fy ngyrru i yn fy mlaen pan nad yw canlyniadau’n mynd o’n plaid ni a phan gawn ni siom, rydyn ni’n symud yn ein blaenau oherwydd rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gwneud hyn er lles y bobol.”

Cyswllt gyda’r gymuned

Mae’n dweud bod y ffaith ei fod e’n byw yn y ddinas wedi creu cyswllt rhyngddo fe a’r cefnogwyr mewn amser byr.

“Dw i eisiau’r cyswllt hwnnw gyda’r cefnogwyr a’r clwb yn fawr iawn oherwydd mae’r ddwy ochr eisiau hynny o fewn y ddinas.

“Os ydych chi’n byw yn y ddinas, rydych chi’n ymwneud â’r clwb pêl-droed mewn rhyw ffordd.

“Hyd yn oed os nad ydych chi’n mynd i’r gemau, dyna’r canlyniad cyntaf y byddwch chi’n chwilio amdano fe.

“Pan ydyn ni’n ennill, dw i’n teimlo’n falch iawn, a phan nad ydyn ni’n ennill, dw i’n cael fy ysgogi i wneud pethau’n iawn.”