Wrecsam 1–0 Ebbsfleet                                                                   

Cododd Wrecsam o safleoedd disgyn Cynghrair Genedlaethol Lloegr gyda buddugoliaeth o gôl i ddim dros Ebbsfleet ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Hon a oedd gêm gyntaf y Dreigiau ers i gyfnod Bryan Hughes fel rheolwr ddod i ben yn gynharach yn yr wythnos. Roedd dechrau siomedig i’r tymor wedi gadael y Cymry yn y pedwar isaf, ond maent yn codi o’r safleoedd hynny diolch i’r tri phwynt hwn o dan ofal dros dro y profiadol, Brian Flynn.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe anfonodd Flynn ddau eilydd i’r cae ar gyfer yr ail ac fe ddylai un o’r rheiny fod wedi rhoi Wrecsam ar y blaen gyda chic o’r smotyn ond cafodd cynnig Bobby Grant ei arbed gan Jordan Holmes yn y gôl.

Cafodd y llall well lwc serch hynny, Paul Rutherford, yn sgorio unig gôl y gêm gydag ergyd daclus toc wedi’r awr.

Mae’r canlyniad yn rhoi Wrecsam yn yr ugeinfed safle yn y tabl wedi tair gêm ar ddeg.

.

Wrecsam

Tîm: Dibble, Crrington, Barnum-Bobb, Jennings (Hooper 59’), Redmond (Rutherford 45’), Oswell, Young, Summerfield, Lawlor, Harris (Grant 45’), Pearson

Gôl: Rutherford 63’

Cardiau Melyn: Summerfield 84’, Grant 90’

.

Ebbsfleet

Tîm: Holmes, Weston, Grimes, Obileye, Ball (Egan 65’), Reid, Sutherland, King (Biabi 85’), Wilson, Umerah (Ugwu 58’), Cordner

.

Torf: 3,627