Mae disgwyl i’r gêm rhwng Cymru a Slofacia gael ei chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig wrth i UEFA gosbi Cymdeithas Bêl-droed Slofacia am ymddygiad hiliol ei chefnogwyr.

Bydd tîm Ryan Giggs yn wynebu Slofacia yn ninas Trnava ar Hydref 10, ac roedd disgwyl i fwy na 2,000 o gefnogwyr Cymru ddod i wylio’r gêm.

Yn ogystal ag atal cefnogwyr rhag gwylio’r gêm nesaf, mae Slofacia hefyd yn gorfod talu 20,000 euro (£17,700) mewn dirwyon.

Daw’r cosbau yn dilyn ymddygiad hiliol ei chefnogwyr yn ystod y gêm yn erbyn Hwngari yn Budapest ar Fedi 9, pan enillodd Slofacia o ddwy gôl i un.

Mae Hwngari hefyd wedi cael eu gorchymyn i chwarae ei gêm nesaf – yn erbyn Azerbaijan ar Hydref 13 – y tu ôl i ddrysau caeedig yn dilyn ymddygiad tebyg gan ei chefnogwyr.

Cymru yn “hynod siomedig”

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud ei bod hi’n “hynod siomedig” na fydd modd i gefnogwyr weld y crysau cochion yn chwarae ar Hydref 10.

“Mae CBDC ar hyn o bryd yn cyflwyno achos cryf i UEFA am effaith annheg y penderfyniad ar y 2,137 o gefnogwyr sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer y gêm,” meddai’r gymdeithas mewn datganiad.

“Mae enw da ymddygiad ein cefnogwyr yn hysbys drwy Ewrop ac nid ydyn nhw yn haeddu cael eu cosbi yn yr un ffordd ag y nifer fechan o gefnogwyr sydd yn deilwng o gosb gan UEFA.”

Ychwanega’r datganiad: “Mae UEFA wedi cynghori nad oes modd i CBDC apelio yn erbyn y penderfyniad o wahardd cefnogwyr Cymru o’r stadiwm.

“Mae CBDC yn deall fod CBD Slofacia yn bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad Corff Rheolaethu, Moeseg a Disgyblu UEFA a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa.”