Logo Wrecsam
Roedd goliau cynnar yn yr hanner cyntaf a’r ail hanner i Nat Night-Percival ynghyd ag un yr un gan Andy Morrel a Jake Speight yn hen ddigon i roi crasfa iawn i Stockport ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Dim ond tri munud o’r gêm oedd wedi ei chwarae pan sgoriodd Knight-Percival ei gyntaf ef a chyntaf Wrecsam yn dilyn cic rydd Jamie Tolley.

Morrel ei hunan ychwanegodd yr ail hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ar ôl croesiad Jamie Tolley o gic gornel. Y Dreigiau’n gyfforddus ar yr egwyl felly ond roedd mwy i ddod yn yr ail hanner.

Dim ond munud yn unig o’r ail hanner oedd wedi ei chwarae pan rwydodd Knight-Percial ei ail a thrydedd Wrecsam. Adlamodd peniad Mark Creighton oddi ar y trawst yn syth i lwybr Knight-Percival, 3-0 a’r gêm drosodd.

Tynnodd Morrel ei hunan oddi ar y cae toc wedi’r awr gan ddod a Speight ymlaen yn ei le a’r hufen ar y gacen oedd y bedwaredd gôl i’r eilydd gyda chwarter awr yn weddill.

Mae Wrecsam bellach bedwar pwynt yn glir ar frig Cyngres y Blue Square ac mae’n anodd gweld y chwaraewr reolwr dros dro, Andy Morrel yn colli ei swydd yn y misoedd i ddod.