Roedd y Caneris yn drech na’r Elyrch yn Carrow Road yn y frwydr rhwng dau o dimau newydd yr Uwchgynghrair. 3-1 oedd y sgôr terfynol yn dilyn dechrau dychrynllyd i’r gêm gan Abertawe.

Record oddi cartref wael oedd gan Abertawe cyn i’r gêm hon gychwyn ac roedd pethau’n edrych yn ddu arnynt wedi 49 eiliad yn unig heddiw. Gwaith da gan y Cymro, Steve Morison oedd i ddiolch am y gôl gynnar, ei beniad ef o groesiad Elliot Bennett roddodd y cyfle i Anthony Pilkington rwydo’n nerthol.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r ymwelwyr wedi 9 munud wrth i’r amddiffyn adael Russel Martin yn gwbl rydd i benio ail Norwich yn dilyn cic rydd David Fox.

Ond tarodd Abertawe yn ôl yn syth mewn deuddeg munud agoriadol hynod gyffrous, gwaith da gan Scott Sinclair yn y cwrt yn dod o hyd i Danny Graham ac yntau yn sgorio ei ail gôl o’r tymor.

Distawodd pethau i raddau helaeth wedi’r chwarter awr agoriadol ond roedd cyfleoedd da yn yr hanner cyntaf i Pilkington, Morison ac Elliott Bennett ychwanegu at fantais y tîm cartref ond arhosodd y sgôr yn 2-1 hyd at hanner amser.

Gwelwyd llai o gyfleoedd wedi’r egwyl ond sicrhawyd y fuddugoliaeth i Norwich ychydig wedi’r awr, Pilkington yn sgorio’i ail o’r gêm wedi i Bradley Johnson ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi.

Roedd ambell i gyfle wedi hynny, arbedodd Michelle Vorm gynnig yr eilydd, Grant Holt a cheisiodd Sinclair ei lwc o bellter i’r ymwelwyr ar ddau achlysur. Daeth cyfle gorau Abertawe yn yr ail hanner i’r eilydd, Stephen Dobbie ond tarodd ei ergyd yn erbyn amddiffynnwr cyn penio’i ail gynnig yn syth at y golwr, John Ruddy.

Ymdrech lew gan fechgyn Brendan Rodgers ond roedd gormod o ddifrod wedi’i wneud yn y deg munud agoriadol i Abertawe ddychwelyd o ddwyrain Lloegr gyda dim byd. Roedd y ddau dîm yn gyfartal ar wyth o bwyntiau cyn y gêm ond yn dilyn y canlyniad y mae Norwich yn neidio i’r hanner uchaf gan adael Abertawe yn yr unfed safle ar ddeg.