Mark Jones yw rheolwr Port Talbot
Bydd Port Talbot yn benderfynol o ddod a rhediad wael ddiweddar i ben wrth groesawu Airbus i Stadiwm GenQuip brynhawn yfory.

 Yn dilyn dechrau addawol i’r tymor y mae Port Talbot wedi disgyn i hanner isa’r tabl yn dilyn tair colled o’r bron yn erbyn Castell Nedd, Llanelli a Bangor.

Ond ni ddylai cefnogwyr Port Talbot ddigalonni gormod gan gofio mai tri thîm o’r pedwar uchaf yw’r rheiny. Ac yn wir, er gwaethaf canlyniad siomedig ym Mangor yr wythnos ddiwethaf roedd perfformiad ei dîm wedi plesio rheolwr Port Talbot, Mark Jones.

 “Roeddwn i’n meddwl ein bod ni’n haeddu pwynt o leiaf… dydw i erioed fel rheolwr, wedi teithio i Fangor a chreu gymaint o gyfleoedd!”

Digon felly i godi calon y cefnogwyr cartref sydd ond wedi gweld eu tîm yn colli unwaith yn Stadiwm GenQuip y tymor hwn. Peth arall a ddylai roi hyder iddyn nhw yw goliau Cortez Belle. Ef sgoriodd unig gôl Port Talbot ar Ffordd Farrar yr wythnos ddiwethaf a bydd y tîm yn gobeithio y gall eu prif sgoriwr ychwanegu at y bedair gôl y maen nhw wedi sgorio hyd yma’r tymor hwn wrth wynebu amddiffyn Airbus ddydd Sadwrn.

Un gôl yr un oedd hi pan heriodd y ddau dîm ei gilydd ym Mrychdyn yn gêm gynta’r tymor ond bydd Port Talbot, gyda’r fantais o chwarae gartref, yn disgwyl buddugoliaeth yfory. Paul Cochlin sgoriodd gôl Port Talbot y diwrnod hwnnw ond fe fydd yr amddiffynnwr yn poeni mwy am atal Airbus yn y pen arall yfory.

Dyma gêm hynod bwysig wrth i ail hanner rhan gyntaf y tymor ddechrau. Wrth i’r bwlch rhwng y pump uchaf a gweddill y gynghrair ddechrau tyfu y mae’n edrych yn gynyddol debyg  y bydd pedwar neu bum tîm arall yn brwydro am y chweched safle holl bwysig hwnnw erbyn i’r gynghrair hollti ym mis Ionawr. Bydd pob gêm rhwng y timau hynny rhwng nawr a’r flwyddyn newydd yn holl bwysig felly a dyna’n union yw’r gêm hon rhwng Port Talbot ac Airbus ddydd Sadwrn. Mae gan Bort Talbort dri phwynt o fantais dros Airbus sydd un safle oddi tanynt yn y tabl ar hyn o bryd, a’i gobaith yw y bydd y bwlch hwnnw wedi cynyddu erbyn y chwiban olaf ddydd Sadwrn.

A ddaw rhediad anffodus y Gwŷr Dur i ben y penwythnos yma tybed? Cawn weld yn fyw ar Sgorio am 2:30, gyda’r gic gyntaf am 14:45.