Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, yn enwi ei garfan ar gyfer y gêm ragbrofol Ewro 2020 yn erbyn Azerbaijan fory (dydd Mercher, Awst 21).

Fe fydd Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn rhan o’r garfan hwnnw a bydd disgwyl iddynt ddod a gobaith mawr i Gymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Wener, Medi 6.

Mae Cymru ar ei hol hi yng Ngrŵp E ar ôl colli oddi gartref yn erbyn Croatia a Hwngari ym mis Mehefin.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn eistedd chwe phwynt tu ôl i Hwngari, sydd ar y brig, a tri phwynt tu ôl i Croatia a Slofacia, er bod gem ychwanegol ganddynt.

Mae ennill yn erbyn Azerbaijan yng Nghaerdydd yn angenrheidiol os oes gan Gymru unrhyw obaith o gyrraedd un o’r ddau o wledydd ar frig Grŵp E i fynd drwodd i’r gemau.

Gobaith

Fe fydd Ryan Giggs yn siŵr o fod yn bositif yn y gynhadledd yfory wrth ystyried sut mae pethau’n mynd i Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn eu clybiau.

Yn dilyn haf cythryblus a ffraeo rhwng Gareth Bale a’i rheolwr Zinedine Zidane yn Real Madrid, mae’r ymosodwr 30 oed yn ôl yn chwarae yn stadiwm y Bernabeau.

Fe ddechreuodd yn erbyn Celta Vigo benwythnos diwethaf gan greu un o’r goliau mewn gem fuddugol o 3-1 i Real Madrid.

Mae Aaron Ramsey yn ôl yn ffit hefyd ar ôl cael anaf i linyn y gar ac fe chwaraeodd ei gem gyntaf i Juventus yn erbyn Triestina dydd Sadwrn (Awst 17).

Fe fydd Ryan Giggs yn gobeithio y caiff y canolwr ychydig o amser chwarae wrth i’r Serie A ddechrau penwythnos yma. Roedd Aaron Ramsey yn absennol yn nhair gêm rhagbrofol cyntaf Ewro 2020 Cymru.

Yr hogiau ifanc

Er na fydd David Brooks, sy’n cael triniaeth ar ei ffêr yn chwarae yn erbyn Azerbaijan, Croatia na Slofacia, mae Dan James a Harry Wilson yn siŵr o ddod a gobaith i gefnogwyr Cymru.

Mae Dan James wedi sgorio yn barod i’w glwb newydd Manchester Utd, tram mae Harry Wilson hefyd wedi taro cefn y rhwyd i Bournemouth ar fenthyg o Lerpwl.

Bydd Ethan Ampadu, sydd ar fenthyciad tymor yn RB Leipzig o Chelsea, yn dychwelyd i’r garfan ar ôl methu dwy gêm mis Mehefin gydag anaf i’w gefn.