Mae disgwyl i gapten Cymru, Ashley Williams, ymuno â Bristol City yr wythnos hon.

Roedd yr amddiffynnwr ar fenthyg o Everton yn Stoke City y tymor diwethaf, ac nid oes ganddo glwb ers gadael y clwb o Lerpwl ym mis Mehefin.

Mae Ashley Williams, 34, nawr yn agos at ymuno â chlwb Lee Johnson ym Mryste ar gytundeb deuddeg mis.

Mae adroddiadau fod y Cymro wedi gwrthod cynigion o dramor, gan gynnwys rhai o America, oherwydd ei fod yn awyddus i gadw ei le yn nhîm Cymru o dan Ryan Giggs.

Mae Ashley Williams wedi chwarae 86 o weithiau i’w wlad ers chwarae ei gêm gyntaf i Stockport yn 2008.