Bydd actor ac ymgyrchydd enwog o Bort Talbot yn dod â Chwpan y Byd Digartref i Gymru’r haf hwn, er mwyn creu “gwaddol o newid”.

Bydd y digwyddiad pêl-droed yn cael ei gynnal dros gyfnod o wythnos ar ddiwedd mis Gorffennaf a dechrau mis Awst ym Mharc Bute, Caerdydd.

Mae disgwyl i tua 500 o chwaraewyr gynrychioli dros 50 o wledydd yn y bencampwriaeth, sydd wedi ei sefydlu er mwyn trawsnewid bywydau pobol ddigartref.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi ymweld â phrifddinasoedd ledled y byd, gan gynnwys Dinas Mecsico (Mecsico), Oslo (Norwy), Glasgow (yr Alban) a Santiago (Chile).

Cefnogaeth Michael Sheen

Cafodd y cais ar gyfer Cwpan y Byd Digartref Caerdydd 2019 ei arwain gan Michael Sheen.

“Mae cael helpu i ddod â Chwpan y Byd Digartref i Gymru yr haf yma’n freuddwyd i fi,” meddai Michael Sheen.

“Ledled y byd, rydw i wedi gweld sut y gall pêl-droed chwarae rhan enfawr wrth helpu pobol i weddnewid eu bywydau, dod â llawenydd a gobaith pan fo pethau’n edrych ar eu gwaethaf, neu eu helpu i oroesi’r diwrnod.

“Yn ystod yr haf eleni, bydd Caerdydd yn cynnal dathliad o rywbeth a all ddod â ni at ein gilydd.”

Bydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 27 ac Awst 3.