Casnewydd 3–1 Bury
Caeodd Casnewydd y bwlch ar safleoedd ail gyfle’r Ail Adran i ddau bwynt gyda buddugoliaeth dros Bury ar Rodney Parade brynhawn Ddydd Gwener y Groglith.
Mickey Demetriou (2) a Jamille Matt a gafodd y goliau holl bwysig mewn buddugoliaeth dda yn erbyn tîm a ddechreuodd y dydd yn ail yn y tabl.
Peniodd Demetriou’r tîm cartref ar y blaen o groesiad Matty Dolan wedi dim ond pum munud.
Roedd Bury’n gyfartal o fewn dau funud diolch i gyn chwaraewr Caerdydd, Nicky Maynard.
Parhau a wnaeth y sgorio bum munud yn ddiweddarach gyda thrydedd gôl wedi deuddeg munud, Matt yn cwblhau gwrthymosodiad effeithiol i adfer mantais yr Alltudion.
Arafodd pethau wedi hynny a bu rhaid aros tan chwarter awr o’r diwedd am y gôl nesaf, ail Demetriou a thrydedd ei dîm yn sicrhau’r fuddugoliaeth.
Mae’r canlyniad yn codi tîm Mike Flynn i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl, ddau bwynt o’r safleoedd ail gyfle gyda gêm wrth gefn ar y timau uwch eu pennau.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Poole, O’Brien, Demetriou, Willmott, Dolan (Kennedy 66’), Sheehan, Butler, Bennett, Amond (Bakinson 90+2’), Matt (McKirdy 45’)
Goliau: Demetriou 5’, 75’, Matt 13’
Cardiau Melyn: Butler 36’, Demetriou 45’, Dolan 51’
.
Bury
Tîm: Murphy, Aimson, Wharton, Stokes, Adams, O’Shea (Danns 71’), Rossiter, Mayor, Moore (Lavery 63’), Telford (Omotayo 51’), Maynard
Gôl: Maynard 7’
Cardiau Melyn: Stokes 68’, Mayor 77’
.
Torf: 4,433