Mae Gareth Bale wedi cael ei gynnwys yn y garfan a fydd yn cychwyn ymgyrch Cymru ar gyfer cystadleuaeth yr Ewros yn 2020.

Roedd yna bryderon na fyddai’r ymosodwr 29 oed yn cael ei enwi ar ôl iddo droi ei bigwrn ar ddiwedd y gêm rhwng Real Madrid a Ajax ddydd Mawrth diwethaf (Mawrth 5).

Bu’n rhaid iddo hefyd gael seibiant yn ystod y gêm yn erbyn Valladolid ddydd Sul (Mawrth 10) hefyd.

Ymhlith aelodau eraill o garfan newydd Ryan Giggs mae Will Vaulks, chwaraewr canol cae Rotherham a fydd yn ennill ei gap cyntaf.

Mae disgwyl i Gymru herio Trinidad a Tobago mewn gêm gyfeillgar yn Wrecsam yr wythnos nesaf (Mawrth 20).

Fe fydd yr ymgyrch ar gyfer Ewros 2020 yn cychwyn pedwar diwrnod yn ddiweddarach, wrth i’r crysau cochion wynebu Slofacia yng Nghaerdydd.