Caerdydd 0–3 Everton
Colli fu hanes Caerdydd wrth iddynt groesawu Everton i Stadiwm y Ddinas yn Uwch Gynghrair Lloegr nos Fawrth.
Cyn chwaraewr Abertawe o bawb, Gylfi Sigurdsson, a gafodd y ddwy gôl holl bwysig i’r ymwelwyr, un o bobtu’r egwyl, cyn i Calvert-Lewin ychwanegu trydedd hwyr.
Dechreuodd Caerdydd yn addawol ond gwastraffu cyfle da i fynd ar y blaen pan y dewisodd Kenneth Zohore basio i Nathaniel Mendez-Laing pan y gallai fod wedi ergydio ei hun.
Everton yn hytrach a aeth ar y blaen bum munud cyn hanner amser, Seamus Coleman yn torri’r trap camsefyll cyn bwyso Sigurdsson a orffennodd yn daclus gydag ergyd isel.
Yr eilydd, Bernard, a greodd ail Sigurdsson hanner ffordd trwy’r ail hanner. Creodd rhediad da’r Brasiliad gyfle i Morgan Schneiderlin ac er i yntau gael ei atal gan Neil Etheridge yn y gôl roedd Sigurdsson wrth law i rwydo ar yr ail gynnig.
Roedd yn rhaid i Gaerdydd ymosod mewn niferoedd wedi hynny a chawsant eu cosbi gyda gwrthymosodiad yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm, Dominic Calvert-Lewin yn rhwydo’r drydedd wedi pas dreiddgar Idris Gueye.
Mae’r canlyniad yn gadael tîm Neil Warnock yn yr ail safle ar bymtheg yn y tabl ond fe all Southampton lamu drostynt wedi iddynt wynebu Fulham nos Fercher.
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Mendez-Laing (Paterson 69’), Bacuna, Gunnarsson, Hoilett (Murphy 68’), Reid, Zohore (Ward 81’)
Cardiau Melyn: Bacuna 7’, Morrison 14’, Murphy 81’
.
Everton
Tîm: Pickford, Coleman, Keane Jagielka, Digne, Schneiderlin, Gueye, Walcott (Lookman 82’), Sigurdsson (Andre Gomez 88’), Richarlison (Bernard 61’), Calvert-Lewin
Goliau: Sigurdsson 41’, 66’, Calvert-Lewin 90+3’
Cerdyn Melyn: Digne 50’
.
Torf: 31,849