Gêm fyw Sgorio bnawn Sadwrn oedd honno ar Erddi Bastion rhwng Prestatyn a Llanelli.

Bydd Prestatyn yn difaru methu cyfleon da yn yr hanner cyntaf wrth i Lanelli fanteisio’n llawn yn yr ail hanner er mwyn dychwelyd i’r de gyda’r tri phwynt.

Ychydig iawn o effaith mae’r canlyniad yn ei gael ar y tabl wrth i Lanelli aros yn drydydd tra bod Prestatyn yn dal eu gafael ar eu lle yn y chwech uchaf hollbwysig.

Dechrau da i Brestatyn

Dechreuodd Prestatyn y gêm yn gryf gan gael y gorau o’r chwarae yn y 5 munud agoriadol. Ond yna daeth Llanelli fwyfwy i mewn i’r gêm gyda rhediadau Rhys Griffiths a Craig Moses yn ymestyn amddiffyn y tîm cartref.

Serch hynny, Prestatyn gafodd y cyfle cyntaf a chyfle da iawn ydoedd hefyd wrth i’r bêl adlamu’n garedig i Michael Parker yn y cwrt 6 o gic gornel Ross Stephens, ond methu a wnaeth y chwaraewr canol cae.

Daeth ail gyfle da’r prynhawn i Brestatyn hefyd wedi chwarter awr yn dilyn ymgais wael i glirio’r bêl o’r blwch cosbi gan amddiffyn Llanelli. Disgynnodd y bêl i Ross Stephens ond aeth ei ergyd wantan yn syth at Ashley Morris, golgeidwad Llanelli.

Yn fuan wedyn daeth cyfle cyntaf Llanelli, gwaith adeiladu da gan Chad Bond a Rhys Griffiths yn creu cyfle i Craig Moses ddeg llath allan ond roedd David Roberts y golwr allan yn gyflym a chryf i’w atal.

Ddwy funud wedyn roedd y tîm cartref wedi gwastraffu eu trydydd cyfle euraidd yn chwarter cyntaf y gêm, gwaith da gan Stephens ar yr asgell chwith cyn croesi i Neil Gibson yn y canol ac er bod ei sodliad ef i greu’r lle ar gyfer yr ergyd yn wych roedd yr ymdrech ei hun yn wan.

Creodd Rhys Griffiths hanner cyfle iddo’i hun gyda chyffyrddiad cyntaf da wedi hanner awr ond taniodd ei hanner foli dros y trawst.

Di sgôr ar yr egwyl felly ond digon o gyfleoedd yng Ngerddi Bastion, yn enwedig i’r tîm cartref.

Ymwelwyr yn dod mewn iddi

Prestatyn a gafodd gyfle cyntaf yr ail hanner hefyd wrth i Gibson ddarganfod ychydig o le yn y cwrt ond methodd dynnu’r bêl yn ôl i chwaraewr mewn crys coch.

Yna, ar yr awr daeth cyfle gorau Llanelli. Roedd tri chyffyrddiad cyntaf Moses yn y cwrt chwech yn wych wrth iddo reoli’r bêl, troi a chreu lle ar gyfer ergyd ond arbedodd Roberts yn gampus.

Dyna un o gyfraniadau olaf Moses cyn i’r profiadol Jason Bowen ddod ar y maes yn ei le a chreu tipyn o argraff.

Wedi 70 munud gwrthymosododd Llanelli’n gyflym wedi cyfle i Gareth Wilson i Brestatyn yn y pen arall. Arbedodd Roberts gynnig Chris Venables ond bu rhaid i’r amddiffynnwr, Martyn Bettie ildio cic gornel er mwyn cael gwared â’r perygl.

Bowen oedd y cyntaf i’r bêl o’r gic gornel honno a pheniodd hi o’r postyn cyntaf tuag at y postyn pellaf ble roedd Venables wrth law i roi’r ymwelwyr ar y blaen.

Sicrhaodd Llanelli’r fuddugoliaeth gyda’r ail gôl gyda deg munud yn weddill ac roedd Bowen yn ei chanol hi eto.

Daeth o hyd i ddigonedd o le ar yr asgell chwith wrth i chwaraewyr Prestatyn flino yn yr haul poeth, croesodd tuag at Antonio Corbisiero yn y canol ac roedd ei beniad yntau yn mynd syth i gornel uchaf y rhwyd cyn i Roberts ymddangos o rywle gydag arbediad gwych arall.

Yn anffodus i Brestatyn, o’r gic gornel a ddilynodd, adlamodd y bêl i’r rhwyd yn ffodus braidd oddi ar Griffiths yn dilyn peniad Stuart Jones.

Tarodd Griffiths y postyn gyda chynnig da yn yr eiliadau olaf ond roedd Llanelli eisoes wedi gwneud digon i gipio’r pwyntiau.

Cofiwch bod modd gwylio uchafbwyntiau’r gêm ar raglen Sgorio heno am 10:00 ar S4C.

Gwilym Dwyfor Parry