Boreham Wood 0–2 Wrecsam
Cododd Wrecsam i frig Cynghrair Genedlaethol Lloegr gyda buddugoliaeth dros Borham Wood ar Meadow Park nos Fawrth.
Rhwydodd Ben Tollitt ddwy waith yn yr ail hanner i godi’r Dreigiau i dop y tabl.
Hon a oedd y drydedd buddugoliaeth o’r bron ers i’r rheolwr newydd, Bryan Hughes, gymryd yr awenau.
Daeth goliau Tollitt o fewn un munud ar ddeg o’i gilydd yn hanner cyntaf yr ail hanner gyda’r ddwy yn cael eu creu gan un o gyn sêr Uwch Gynghrair Cymru, Jason Oswell.
Mae’r canlyniad yn codi’r Cymry dros Solihull i frig y tabl gyda deuddeg gêm yn weddill.
.
Boreham Wood
Tîm: Huddart, Fyfield, Ilesanmi, Shakes (Ash 69’), Parry, Murtagh, Champion, Ricketts, Thomas, Kanu, Gabriel (Shaibu 55’)
Cerdyn Melyn: Parry 36’
.
Wrecsam
Tîm: Lainton, Walker, Jennings, Young, Rutherford, Tollitt (Holroyd 78’), Lawlor, Wright, Carrington, Oswell (Stockton 71’), Kennedy
Goliau: Tollitt 56’, 65’
Cardiau Melyn: Walker 58’, Lawlor 60’
.
Torf: 645