Southampton 1–2 Caerdydd                                                          

Cododd Caerdydd o safleoedd disgyn Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Southampton yn St Mary’s brynhawn Sadwrn.

Sicrhaodd yr Adar Gleision eu hail dri phwynt yn olynol diolch i gôl Kenneth Zohore yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Wedi hanner cyntaf diflas di sgôr, fe aeth yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen toc wedi’r awr pan wyrodd Sol Bamba beniad Callum Paterson i gefn y rhwyd.

Roedd hi’n ymddangos fod y Seintiau wedi achub pwynt yn y munud cyntaf o amser brifo pan arweiniodd camgymeriad Bamba at gôl i Jack Stephens wrth y postyn pellaf.

Ond wnaeth Caerdydd ddim bodloni ar bwynt ac yn y pedwerydd o’r munudau ychwanegol fe ddisgynodd y bêl i Zohore yn y cwrt cosbi ac fe grafodd y blaenwr ergyd i’r gornel isaf gyda chymorth y postyn.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi tîm Neil Warnock allan o’r tri isaf, dros Southampton, i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl.

.

Southampton

Tîm: McCarthy, Bednarek, Stephens, Vestergaard (Elyonuoussi 72’), Valery (Gallagher 83’), Ward-Prowse, Romeu, Hojbjerg, Bertrand, Long (Austin 72’), Redmond

Gôl: Stephens 90+1’

Cardiau Melyn: Ward-Prowse 45+1’, Redmond 89’, Romeu 90+6’

.

Caeryddd

Tîm: Etheridge, Peltier, Ecuele Manga, Bamba, Paterson, Gunnarsson (Bacuna 62’), Ralls, Bennett, Arter, Reid (Zohore 62’), Niasse (Camarasa 83’)

Goliau: Bamba 69’, Zohore 90+3’

Cardiau Melyn: Gunnarsson 61’, Bamba 70’, Zohore 90+4’

.

Torf: 31,438